Bws y Cynulliad i ymweld ag Sioe Môn

Cyhoeddwyd 09/08/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Bws y Cynulliad i ymweld ag Sioe Môn

Bydd bws allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn teithio i Sioe Môn ar 10 Awst er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am waith y Cynulliad a hyrwyddo thema eleni, sef ‘pleidleisio’.

Bydd cyfle i bawb sy’n ymweld â’r bws gymryd rhan mewn gweithdai yn ymwneud ag ymgysylltu â’r Cynulliad, a gwylio cyflwyniadau aml-gyfrwng ar waith y Cynulliad.

Bydd ystod o weithgareddau ar gael i blant, i’w hannog i ddysgu am waith y Cynulliad ac i bwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Gan ddefnyddio gorsafoedd adborth unigol, caiff y cyhoedd gyfle i fynegi barn ynghylch y materion y dylai’r Cynulliad ymdrin â hwy.

Dywedodd Lowri Williams, Rheolwr Cyswllt ac Allgymorth De Cymru:

“Mae bws allgymorth y Cynulliad yn cludo’r Cynulliad i bob rhan Gymru. Mae’n rhoi cyfle i bobl ddysgu am waith y Cynulliad, a sut y gall y gwaith hwn effeithio ar eu bywydau.”

“Mae’r bws yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am eu Haelodau Cynulliad lleol, y gwaith a wneir gan bwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth, yn ogystal â sut y gall gwaith y Cynulliad effeithio ar eu bywydau.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith y Cynulliad i ymweld â’r bws.”

Bws Allgymorth - Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Democratiaeth ar daith!