Bydd Brexit a'i effaith bosibl ar sector bwyd a diod Cymru yn cael ei drafod pan fydd y Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog yn cwrdd yn Theatr Hafren yn y Drenewydd, Powys ddydd Gwener 16 Chwefror.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ynglŷn â rhagolygon y diwydiant bwyd a diod ar gyfer y dyfodol. Gallai'r materion a drafodir gynnwys:
Trefniadau masnach ryngwladol posibl yn y dyfodol ar ôl ymadael â’r UE a'r goblygiadau i'r diwydiant;
Cyfleoedd a risgiau o amgylch safonau bwyd;
Hyrwyddo cynnyrch bwyd o Gymru a 'brand Cymru'; a’r
Goblygiadau ar gyfer twristiaeth a'r diwydiant lletygarwch.
Cadwyn cyflenwi bwyd Cymru yn un o sectorau mwyaf Cymru, sy'n cyflogi mwy na 240,000 o bobl gyda throsiant blynyddol o fwy na £19 biliwn. Ar hyn o bryd mae bron i 93 y cant o allforion cig Cymru sy'n gadael y DU yn mynd i Ewrop.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Mae'r diwydiant bwyd a diod yn hollbwysig i economi Cymru. Mae'n gyflogwr pwysig ynddo'i hun ac mae'n cefnogi ystod o ddiwydiannau eraill, megis twristiaeth a lletygarwch.
"Wrth i drafodaethau Brexit barhau mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gall i ddylanwadu ar ddull Llywodraeth y DU, ond hefyd i gynllunio ar gyfer gwahanol bosibiliadau.
"Byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog, ar ran ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru, o weithrediadau busnes bach i weithrediadau masnachol ar raddfa fawr, pa baratoadau y mae ei lywodraeth yn eu gwneud a pha gyfleoedd sydd wedi'u nodi i hyrwyddo brand Cymru ar ôl Brexit."
Mae'r cyfarfod yn dechrau am 11:30. Dylai unrhyw un sydd am fynd i'r cyfarfod gysylltu â llinell archebu'r Cynulliad ar 0300 200 6565, neu anfon e-bost i cysylltu@cynulliad.cymru.