Cadarnhau Cadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 16/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2020

​Mae Lindsay Foyster wedi cael ei chadarnhau fel Cadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru. 

Cafodd y penodiad ei gymeradwyo a’i gadarnhau gan y Senedd ar 16 Medi, ar argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Gallwch weld adroddiad llawn y Pwyllgor yma

Bydd ei thymor yn cychwyn ar 17 Hydref 2020, a bydd yn y rôl tan 15 Mawrth 2023.

Yn flaenorol, bu Lindsay yn gweithio am 30 mlynedd ym maes iechyd meddwl yn y trydydd sector yng Nghymru, ac mae ganddi dros 19 o flynyddoedd o brofiad o weithio ar lefel bwrdd a chorfforaethol, fel Cyfarwyddwr Mind Cymru. Mae ganddi brofiad o fod ar fwrdd nifer o sefydliadau trydydd sector eraill hefyd. Ei meysydd o ddiddordeb penodol yw llywodraethu da, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymgysylltu â chymunedau. Mae Lindsay wedi bod yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru ers 2015.

Cafodd Lindsay Foyster ei hargymell ar gyfer swydd y Cadeirydd gan y Pwyllgor Cyllid ar ôl proses recriwtio drylwyr a thryloyw. Mae gwybodaeth am y broses wedi’i chyhoeddi yn adroddiad y Pwyllgor, sydd ar gael ar-lein. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd AS: “Rydym yn llongyfarch ac yn croesawu Lindsay Foyster i’w rôl newydd fel Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru. Mae ei chyfraniad fel Aelod Anweithredol ymroddgar a chynhyrchiol wedi bod yn amhrisiadwy ac rydym yn sicr y bydd yn parhau â’r brwdfrydedd a'r egni hwn yn ei rôl newydd. 

“Ar ran y Pwyllgor hoffwn hefyd ddiolch i’r Cadeirydd presennol Isobel Everett am ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad diwyro yn ystod y ddau dymor yn y rôl, ac rwy’n estyn diolch am ei gwasanaeth diwyd.” 

Dywedodd Cadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru, Lindsay Foyster: “Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd newydd Swyddfa Archwilio Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau arni. Rwy'n cydnabod bod hwn yn amser tyngedfennol oherwydd yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ac rwy'n gwbl ymroddedig i'm rôl yn cyflawni'r hyn sydd ei angen ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.” 

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Hoffwn ddiolch i Isobel Everett am ei gwaith caled a’i hymroddiad yn ystod ei hamser gyda ni wrth i ni ffarwelio â hi fel Cadeirydd. Mae Isobel wedi bod yn arweinydd cryf, ymroddedig a deinamig sydd wedi rhoi cefnogaeth wych i mi yn bersonol ac wedi rhoi cyfeiriad i'r sefydliad. 

“Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Lindsay i gyflawni ein huchelgeisiau fel sefydliad yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn i'r sector cyhoeddus.” 

Hefyd, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi penodi dau Aelod Anweithredol newydd o Swyddfa Archwilio Cymru – Elinor Gwynn ac Ian Rees – ac ail-benodi Alison Gerrard i wasanaethu ail dymor yn y rôl.