Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn croesawu’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Archwilio Drafft.

Cyhoeddwyd 16/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn croesawu’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Archwilio Drafft.

16 Mawrth 2012

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Darren Millar AC, wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol mewn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru ar ei Fil Archwilio Drafft.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio ymatebion i’r Bil sy’n anelu at ddiwygio trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.

“Ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rwyf yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Bil Drafft Archwilio Cyhoeddus (Cymru) ac wedi lansio’i ymgynghoriad ar y Bil.” dywedodd Mr Millar.

“Mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod trefn lywodraethol ac atebolrwydd cywir ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ac edrychant ymlaen at glywed barn y cyhoedd a chyfranddalwyr cyn bo hir.”