Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli adeiladau
3 Mehefin 2010
Mae Jonathan Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymateb i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli adeiladau.
Dywedodd: “Mae papur briffio Swyddfa Archwilio Cymru, yn ogystal â gwybodaeth gysylltiedig ar ei gwefan, y Gyfnewidfa Arfer Da, yn cynnig gwersi pwysig i’w dysgu. .
“Ar adeg pan fo cyrff cyhoeddus yn wynebu toriadau difrifol i’w cyllidebau, mae’r gwaith hwn yn pwysleisio’r angen iddynt wneud gwell defnydd o’u tir a’u hadeiladau i gefnogi gwasanaethau ac i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i leihau costau gweithredu.”