Cadwch gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru a sicrhau bod arian cyfatebol ar gael yn ystod yr amser anodd sydd o’n blaen – canfyddiadau dau o adroddiadau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cadwch gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru a sicrhau bod arian cyfatebol ar gael yn ystod yr amser anodd sydd o’n blaen – canfyddiadau dau o adroddiadau’r Cynulliad

7 Gorffennaf 2010

Mae angen llwybr mwy eglur er mwyn dangos yr hyn a fydd yn digwydd i gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol a sut y caiff ei ddefnyddio gan amrywiaeth ehangach o sefydliadau er mwyn helpu rhai o’n hardaloedd tlotaf - dyma’r prif ganlyniadau mewn dau adroddiad gwahanol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol wedi rhyddhau ei ail adroddiad ar ddyfodol y Polisi Cydlyniant ac mae wedi rhybuddio y bydd angen rhagor o gymorth ar Gymru gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop ar ôl 2013.

Dywed y Pwyllgor fod angen agwedd o weithio fel tîm yng Nghymru er mwyn dadlau’r achos hwn yn glir yn y Deyrnas Unedig ac ym Mrwsel. Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio yn erbyn y posibilrwydd o ail-wladoli unrhyw gronfeydd yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig - gan gefnogi’r adroddiad cyntaf a ryddhawyd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd Rhodri Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol: “Mae’r Pwyllgor yn gwrthod yn llwyr y syniad o ail-wladoli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn ôl i’r Aelod Wladwriaeth, a’r syniad mai’r unig eithriad i’r rheol hwn fyddai gwladwriaethau sydd wedi’u derbyn o ddwyrain Ewrop, a fyddai’n parhau i gael arian yn uniongyrchol o Ewrop. Ni fyddai hyn yn llesol i Gymru, i’r Deyrnas Unedig nac i’r Undeb Ewropeaidd yn ehangach.”

“Mae’n rhaid i’r broses o yrru’r adferiad economaidd mewn modd cydlynol ar draws yr Undeb gynnwys rhanbarthau llai ffyniannus fel Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, o fewn Aelod-wladwriaethau mwy cyfoethog fel y DU. Mae hynny yn unol â blaenoriaethau strategol Strategaeth Ewrop 2020. Mae’n gofyn am agwedd integredig ledled yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cydnabod pwysigrwydd yr holl ranbarthau a llywodraethau aml-lefel fel Cymru.

“Bydd cefnogaeth barhaus drwy’r Polisi Cydlyniant yn datgloi potensial Cymru i roi amcanion Ewrop 2020 ar waith yn llawn sef ‘twf doeth, cynaliadwy a chynhwysol’.

“Bydd yn hybu ymchwil a datblygiad, arloesi a’r economi ‘werdd’, ac yn cefnogi datblygiad yr hyfforddiant a’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn i Gymru ffynnu.”

Ar yr un pryd, mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn credu bod angen gwneud mwy er mwyn sicrhau bod Cronfeydd Strwythurol Ewrop yn cael eu defnyddio’n fwy creadigol o ran symbylu gwelliannau hirdymor, cynaliadwy yn yr economi yng Nghymru fel peri i’r diwydiannau digidol, creadigol a gwyrdd dyfu.

Er bod digon o ganmoliaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran gweinyddu’r Cronfeydd Strwythurol, canfu ei ymchwiliad bod angen mynd i’r afael â materion pwysig fel yr angen i gynnwys cwmnïau llai o’r sector preifat a’r trydydd sector.

Hefyd tynnodd y Pwyllgor sylw at effaith bosibl cyllidebau tynnach yn y sector cyhoeddus ar argaeledd arian cyfatebol ar gyfer prosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a’r tebygrwydd o alwadau cynyddol ar Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod rhaglennu.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae’r Gweinidog wedi ein sicrhau na fydd diffyg arian cyfatebol yn fater o bryder, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol hon.

“Ond credwn fod angen adolygu’r sefyllfa hon. Mae gan fy Mhwyllgor bryderon eraill am yr angen i wella’r cyfathrebu rhwng prosiectau ar lefel leol er mwyn osgoi dyblygu’r ymdrech o ran gwireddu amcanion ar y cyd.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd fynd i’r afael â’r ffaith nad yw diwydiant yn ‘brathu’ ar y lefel strategol mewn rhaglenni Cydgyfeirio ac mae angen i ni weld sut mae angen i bob prosiect addasu ar gyfer amgylchiadau economaidd sy’n newid er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd yn y tymor hwy.

“Nod cyffredinol – a llwyddiant eithaf – Ariannu Strwythurol Ewrop fydd cael gwelliannau strwythurol, cynaliadwy yn yr economi yng Nghymru, yn ogystal â gwelliannau yn yr agenda cynhwysiant cymdeithasol.”

Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu’n gwneud 19 o argymhellion yn ei adroddiad. Maent yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn fwy dychmygus o ran sicrhau bod cwmnïau llai yn y sector preifat ac yn y trydydd sector yn cael cyfleoedd i gymryd rhan wrth ddarparu prosiectau Cronfeydd Strwythurol.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried goblygiadau posibl cyllidebau tynnach yn y sector cyhoeddus yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag argaeledd arian cyfatebol gan y sector cyhoeddus a’r posibilrwydd o alwadau cynyddol ar y Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir.

  • Wrth ymgymryd â’i gyfrifoldebau o fonitro prosiectau dylai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ystyried yn ofalus yr hinsawdd economaidd bresennol a’r effaith a gaiff hyn ar dargedau prosiectau gwreiddiol ac felly’r canlyniadau tymor hwy i’r economi yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn gwneud 14 o argymhellion i’r Comisiwn Ewropeaidd, i Senedd Ewrop ac i Lywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru i roi eglurhad ynghylch y ffordd orau i gynrychioli sefyllfa Cymru o ran Polisi Cydlyniant y dyfodol, a’i hyrwyddo, drwy weithio gyda rhanbarthau eraill Ewrop ar gyrff Ewropeaidd ffurfiol a rhwydweithiau anffurfiol fel REGLEG, CPMR a ROTOPI.

  • Llywodraeth Cymru i egluro sut y mae wedi cysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru a sut y mae’n bwriadu uchafu’r radd o undod wrth fynd ar drywydd buddiannau allweddol Cymru yng nghyfnod allweddol nesaf y ddadl ar y Polisi Cydlyniant yn 2010-11.

  • Llywodraeth Cymru i egluro sut y bydd yn cyflwyno’r ddadl i Lywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig a chyda hi, am barhad Polisi Cydlyniant ledled yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys mynediad at gymorth Cydgyfeirio ar gyfer rhanbarthau cymwys, a darpariaeth o drefniadau ariannu trosiannol, ar ôl 2013.

Ail Adroddiad Yr Ymchwiliad i Ddyfodol y Polisi Cydlyniant

Cronfeydd Strywthurol: Gweithredu Rhaglenni 2007-2013