Cam ymlaen i bwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cam ymlaen i bwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2012

Mae Aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid newid Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn caniatáu cyflwyno Biliau Preifat.

Mae Bil Preifat yn Fil a gaiff ei gyflwyno gan unigolyn neu sefydliad y tu allan i’r Cynulliad er mwyn sicrhau pwerau iddyn nhw eu hunain sy’n fwy na’r gyfraith gyffredinol, neu sy’n gwrthdaro â hi.

Mae’r pwer i ymdrin â Biliau Preifat sydd o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol wedi bod gan y Cynulliad Cenedlaethol ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei phasio. Fodd bynnag, roedd y broses Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a oedd yn bodoli cyn mis Mai y llynedd yn golygu bod Biliau o’r fath yn annhebygol iawn o gael eu cyflwyno. Mae newid y Rheolau Sefydlog yn golygu bod gweithdrefn yn ei lle gan y Cynulliad Cenedlaethol bellach ar gyfer ystyried Biliau o’r fath.

Cyn hynny, roedd Biliau Preifat a oedd yn berthnasol i Gymru yn cael ei hystyried yn San Steffan. Er enghraifft, cafodd Deddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 ei phasio o ganlyniad i Fil Preifat a gafodd ei gyflwyno i Senedd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Pleidleisiodd y mwyafrif llethol o bobl Cymru, y llynedd, dros ddatganoli rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. O ganlyniad i hynny, rydym wedi datblygu ein gallu i ddeddfu ar sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd.”

“Mae’r ffaith bod unigolion a chyrff preifat yn gallu cyflwyno Biliau Preifat i’r Cynulliad yn gam sylweddol arall ymlaen i ddatblygiad deddfu yng Nghymru ac yn dystiolaeth bellach o aeddfedrwydd y Cynulliad Cenedlaethol fel deddfwrfa.”