Canfod £8 miliwn o dwyll a gordaliadau trwy’r Fenter Twyll Genedlaethol - ymateb Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd

Cyhoeddwyd 13/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2020

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd wedi ymateb i ganfyddiadau adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, dydd Mawrth 13 Hydref 2020, sy'n datgelu bod twyll a gordaliadau gwerth £8 miliwn wedi eu canfod ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol (MTG) ar gyfer 2018-2020 wedi datgelu £8 miliwn o dwyll a gordaliadau - £2.7 miliwn yn fwy na'r cylch blaenorol ddwy flynedd yn ôl. Yn ei adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn egluro bod hyn yn bennaf oherwydd bod "nifer o awdurdodau lleol wedi bod yn fwy rhagweithiol o ran adolygu pariadau rhwng disgownt person sengl y dreth gyngor a'r gofrestr etholiadol".

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod pandemig COVID-19 wedi "cynyddu'r risg o dwyll yn sylweddol". Dywed yr Archwilydd Cyffredinol ei fod yn gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet i fynd i'r afael â pheth o'r risg hon.  

Wrth ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Nick Ramsay AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd:

"Ar adeg o bwysau ariannol parhaus, mae'r Fenter Twyll Genedlaethol (MTG) yn gwneud cyfraniad hanfodol at ganfod twyll a gordaliadau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r ffaith bod yr ymarfer MTG diweddaraf wedi cael mwy o effaith yn dangos yn glir y buddion a geir o gyrff cyhoeddus yn gwneud gwaith dilynol trylwyr ar y broses paru data. Oherwydd hynny, mae'n siom nad yw rhai sefydliadau yn buddsoddi digon amser ac ymdrech yn hynny o beth.

"Mae pandemig COVID-19 yn golygu bod risgiau twyll newydd yn ymddangos, ac rwy'n croesawu'r camau y mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi'u cymryd i weithio gyda Swyddfa'r Cabinet i nodi cyfleusterau paru data, eu datblygu a'u hyrwyddo. Rwyf hefyd yn falch o weld yn bydd paru data ar gyfer grantiau cymorth busnes COVID-19 a delir gan awdurdodau lleol yn rhan o'r Fenter Twyll Genedlaethol yn y dyfodol.

"Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad ar drefniadau gwrth-dwyll cyrff cyhoeddus. Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod canfyddiadau'r ddau adroddiad hyn yn ystod ei waith craffu arfaethedig ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru 2019-20."

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac mae'n paru data rhwng sefydliadau, systemau ac ar draws ffiniau gwledydd i helpu cyrff cyhoeddus i adnabod hawliadau a thrafodion a allai fod yn dwyllodrus neu'n gyfeiliornus.

Gellir darllen adroddiad llawn yr Archwilydd Cyffredinol yma.