Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf - Cynulliad Cenedlaethol i nodi Dydd y Cofio gyda chyfres o ddigwyddiadau

Cyhoeddwyd 07/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Bydd y Senedd yn ddistaw am 11:00 ar 11 Tachwedd i gofio aberth eithaf y milwyr o Gymru.

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, yn arwain y ddwy funud o ddistawrwydd yn dilyn seinio'r Caniad Olaf gan y biwglwr Claire Bourne, Band Gwirfoddol Llu Awyr Brenhinol Sain Tathan, yn y Neuadd.

Bydd y seremoni coffáu yn ganolbwynt i gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar ystâd y Cynulliad i nodi canmlwyddiant ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Maent yn cynnwys:

  • lansio rhaglen "Cymru dros Heddwch" Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA);
  • dadl ieuenctid y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd Cymru (CEWC Cymru) am y rôl y gall Cymru ei chwarae yn datblygu heddwch ar draws y byd; a
  • darlith gan yr Athro Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth am rôl Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Yn ystod y flwyddyn sy'n nodi Canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, mae'n iawn fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd rôl ganolog i nodi aberth y milwyr a wnaeth yr aberth eithaf.

"Rhoddodd mwy na 40,000 o filwyr o Gymru eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda miloedd mwy yn cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar draws y byd a thrwy gydol hanes.

"Mae gan lawer ohonom gysylltiad personol â'r dynion dewr a wnaeth yr aberth eithaf ar feysydd y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Collodd fy hen ewythr, John William Peacey, ei fywyd yn ystod y rhyfel hwnnw - un o'r miliynau o ddynion a gollodd eu bywydau'n ifanc.

"Mae'n anrhydedd mawr i mi gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddydd y Cofio eleni, sef y flwyddyn rydym yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr."

Am 9:00, bydd y WCIA yn lansio rhaglen "Cymru dros Heddwch" yn y Pierhead.

Bydd y ddwy funud o ddistawrwydd yn dechrau yn y Neuadd am 11:00.

Dilynir hynny gan ddadl ieuenctid CEWC Cymru yn Siambr Hywel am 11:30.

Bydd yr Athro Jenny Mathers yn cyflwyno ei darlith yn y Pierhead am 18:00.