Gan y disgwylir tywydd garw dros y dyddiau nesaf, mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu canslo’r dathliadau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yfory.
Mae'r Comisiwn yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, ond barnwyd mai hwn oedd y cam mwyaf priodol i’w gymryd.
Mae trefniadau ar gyfer ail-drefnu rhai o ddigwyddiadau’r diwrnod yn cael eu hystyried a cheir rhagor o wybodaeth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cynulliad.
Disgwylir i bwyllgorau'r Cynulliad gyfarfod fel arfer.