Cysylltiadau trafnidiaeth gwael ac ardrethi busnes annheg yn arafu’r gwaith o adfywio canol trefi

Cyhoeddwyd 25/01/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael a’r parcio sydd ar gael yn effeithio ar nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, er anfantais i fusnesau lleol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Yn ystod ymchwiliad sy’n edrych ar sut mae Adfywio Canol Trefi yn gweithio ledled Cymru, clywodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd fod diffyg systemau trafnidiaeth syml ac integredig yn atal pobl rhag ymweld â chanol trefi yn amlach gan fod yn well ganddynt ddefnyddio lleoliadau y tu allan i’r dref.

Clywodd hefyd sut mae’r gyfundrefn ardrethi annomestig bresennol yn rhwystro buddsoddiad mewn trefi, gan atal ailddatblygu eiddo gwag, ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau bach sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau ynni cynyddol.

Mae adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 25 Ionawr 2024, yn cynnwys 8 argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan alw arni i wneud mwy i gyflymu adfywio a chefnogi rhanddeiliaid lleol i wneud penderfyniadau mawr sy’n briodol i’w hardaloedd. 

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sbarduno a chyflawni gweledigaeth newydd ar gyfer ein strydoedd mawr. Mae hynny’n golygu darparu system drafnidiaeth sy’n syml ac yn hawdd ei defnyddio; system drethu fwy synhwyrol ar gyfer busnesau; cymhellion ariannol i annog busnesau newydd; a dull newydd o fynd i’r afael ag eiddo gwag sy’n difetha canol ein trefi.

“Fel gwledydd eraill, mae trefi Cymru wedi newid yn syfrdanol yn sgil y pandemig a’r cynnydd mewn siopa ar-lein. Mae’n amlwg nad yw rôl draddodiadol y stryd fawr fel canolbwynt manwerthu bellach yn gynaliadwy ac yn ystod ein hymchwiliad clywsom am sawl prosiect arloesol, ar lefel leol, sy’n rhoi pwrpas newydd i ganol trefi.

“Ond dim ond os yw’r holl randdeiliaid wedi’u grymuso i wneud penderfyniadau mawr sy’n briodol i’w hardal y bydd y datblygiadau arloesol hyn yn llwyddiannus, gyda sicrwydd yn genedlaethol y bydd adnoddau ac arbenigedd digonol ar bob lefel. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu’r atebion cenedlaethol i'r problemau lleol a chefnogi ein cymunedau i gyflawni’r adfywio sydd ei angen mor fawr ar ein trefi.”

Ymdrechion lleol i adfywio trefi

Yn ystod yr ymchwiliad, ymwelodd y Pwyllgor â’r Wyddgrug, Wrecsam, Treforys a Chaerfyrddin i gyfarfod â chynrychiolwyr lleol a dysgu am y ffyrdd arloesol y maent yn ceisio trawsnewid ar eu strydoedd mawr.

“Roedd yn hynod braf ymweld â’r Wyddgrug, Wrecsam, Treforys a Chaerfyrddin. Roedd yn bleser clywed am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud, ond roedd yn sobr clywed am yr heriau yr oedd pob lleoliad hefyd yn eu hwynebu. Mae ein hadroddiad heddiw yn amlygu’r rhwystrau hyn,” ychwanegodd Mark Isherwood AS.

Ymhlith y prosiectau yr ymwelodd y Pwyllgor â nhw oedd safle hanesyddol Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug, a ailddatblygwyd fel ased cymunedol. Wrth gerdded drwy ganol dinas Wrecsam, clywodd y Pwyllgor am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Cymru, a phrosiect Porth i Wrecsam, sy’n cynnig cysylltu canol y ddinas â’r Brifysgol, y stadiwm pêl-droed a’r orsaf drenau.

Yng Nghaerfyrddin, gwnaethant ddysgu sut y bydd hen siop Debenhams yn dod yn hyb hamdden newydd sy’n dod â gwasanaethau iechyd, llesiant, dysgu a diwylliannol i gyd o dan yr un to. Ar ôl mynd am dro ar hyd stryd fawr Treforys, gwnaethant ymweld â Chapel Tabernacl Treforys a Chanolfan y Galon Gysegredig, y mae’r ddau ohonynt yn cael eu defnyddio fel adnodd cymunedol ar gyfer grwpiau lleol.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gyflawni adfywio canol trefi yn well ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, a bydd yn cael ei drafod gan y Senedd gyfan maes o law.

 

Darllen yr adroddiad