Cod ymddygiad newydd ar gyfer Aelodau'r Senedd

Cyhoeddwyd 14/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Safonau'r Senedd yn gofyn am sylwadau'r cyhoedd ar God Ymddygiad newydd ar gyfer Aelodau'r Senedd.

Os cytunir ar y Cod newydd, mi fydd disgwyl i Aelodau'r Senedd gydymffurfio â'r safonau ymddygiad - gan gynnwys egwyddor newydd o 'Barch' - ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2021.

Mae'r cod yn gosod sut y dylai Aelodau ymddwyn wrth weithio â'i gilydd yn ogystal â gyda staff, rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Yn y Cod sy'n cael ei gynnig yn yr ymgynghoriad, mae'n nodi yn glir y dylai'r safonau ymddygiad fod yn berthnasol i Aelodau drwy'r amser, gan gynnwys yn eu bywydau personol a phreifat. 

Os oes unrhyw un yn credu fod Aelod yn ymddwyn yn groes i'r safonau yn y Cod, mae modd gwneud cwyn i'r Comisiynydd Safonau annibynnol. Yn yr ymgynghoriad, mae'r Pwyllgor yn gofyn a yw'r drefn gwyno yma yn gweithio'n effeithiol ar hyn o bryd neu a ddylid ei newid mewn unrhyw ffordd.  

Cytunwyd ar y Cod presennol ym mis Mai 2016, ac mae'r Senedd yn ei adolygu'n rheolaidd. Mae'r broses o ddiweddaru'r Cod wedi ganiatáu i'r Pwyllgor edrych ar y materion gwahanol sydd wedi codi yn ystod tymor presennol y Senedd ac ystyried unrhyw newidiadau mewn cymdeithas a bywyd cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad o'r farn y byddai'n briodol ychwanegu egwyddor 'Parch' at y safonau er mwyn adlewyrchu:

  • Adroddiad yr ymchwiliad annibynnol ar Fwlio ac Aflonyddu ar staff Tŷ'r Cyffredin, a arweiniodd at fabwysiadu Polisi Urddas a Pharch y Senedd
  • Mudiadau ehangach mewn cymdeithas, fel #MeToo a Black Lives Matter

Cam-drin ar-lein

Mae'r Cod Ymddygiad yn helpu i osod safon a naws y ddadl wleidyddol. Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS wedi sôn eisoes ei bod hi o'r farn fod cam-drin ar-lein a naws y ddadl wleidyddol yn rhwystro pobl rhag mynd i wleidyddiaeth. 

Nid yw'r Cod newydd arfaethedig yn cyfeirio'n benodol at ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ond mae'n dweud na ddylai unrhyw un fod yn "destun ymosodiad personol gan Aelod mewn unrhyw ddull cyfathrebu (boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu unrhyw ffurf electronig neu gyfrwng arall) - mewn modd a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n sarhaus gan berson rhesymol a diduedd, gan roi sylw i'r cyd-destun y gwnaed y sylwadau ynddo."

Drwy gynnwys egwyddor newydd o 'Barch', y gobaith yw y gall y cod newydd fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn drwy osod safon barchus i ddadleuon gwleidyddol ac annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Ymgynghori â'r cyhoedd

Mae'r Pwyllgor eisiau clywed barn pobl am y newidiadau sy'n cael eu cynnig i'r cod ac ynghylch y math o ymddygiad y maent yn ei ddisgwyl gan yr Aelodau sy'n eu cynrychioli. Mi fydd y Pwyllgor yna'n cyflwyno'r Cod newydd i'r Senedd a fydd yn penderfynu a ddylid cytuno arno ai peidio. 

Y bwriad yw cwblhau'r adolygiad hwn erbyn diwedd y Senedd bresennol er mwyn paratoi at y Senedd nesaf.

"Mae'r Cod Ymddygiad yn gosod safon a naws y ddadl wleidyddol, a nawr, yn fwy nag erioed, mae'n bwysig cael hyn yn iawn. 

"Gyda phroblem ddifrifol o gam-drin ar-lein ac ymgyrchoedd pwerus fel mudiad #MeToo a Black Lives Matter, mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella naws y ddadl a gosod safon sy'n annog pobl i ymddiried yn eu cynrychiolwyr etholedig ac yn ysbrydoli pobl o bob cefndir i sefyll etholiad.

"Rydym yn awyddus i glywed barn pobl o bob cwr o Gymru am y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd." 

- Jayne Bryant AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau'r Senedd