​​Cofio brwydr Coedwig Mametz wrth i’r Llywydd arwain dirprwyaeth o’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2016

 


Bydd brwydr Coedwig Mametz, lle y collodd cannoedd o filwyr o Gymru eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cael ei chofio wrth i’r Llywydd arwain dirprwyaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn digwyddiad coffa ddydd Iau 7 Gorffennaf.

Bydd Leanne Wood AC, arweinydd Plaid Cymru, Andrew RT Davies AC, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Neil Hamilton AC, arweinydd UKIP yn y Cynulliad, yn ymuno ag Elin Jones AC mewn digwyddiad i nodi canmlwyddiant dechrau ymgyrch y 38fed Adran Gymreig i adennill y coetir 200 erw o filwyr yr Almaen yn ystod Brwydr y Somme. Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, hefyd yn cyfrannu at y digwyddiad.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae’n fraint cael arwain y ddirprwyaeth hon o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i osod torch ar gofeb Coedwig Mametz, sydd wedi dod i symboleiddio aberth ac ymrwymiad milwyr o Gymru.

“Mae sefyll lle mae cymaint wedi syrthio yn ein hatgoffa o erchylltra rhyfel.

“Ni allwn fyth anghofio’r aberth hwn nac ychwaith ei ailadrodd.”

Bydd y ddirprwyaeth o’r Cynulliad Cenedlaethol yn gosod torch ar gofeb Coedwig Mametz, sef draig goch ar ben plinth dri metr o uchder a godwyd ym 1987 gan y cerflunydd David Petersen.