Comisiwn y Cynulliad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno Bil newydd ar gyfer Senedd Cymru ac Etholiadau 

Cyhoeddwyd 02/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2018

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i gyflwyno cynnig heddiw (2 Hydref) ar gyfer dadl ar 10 Hydref yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo ei benderfyniad i gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru).  

Gan ddefnyddio pwerau newydd sydd wedi’u datganoli o dan Ddeddf Cymru 2017, mae'r Comisiwn yn bwriadu cyflwyno Bil i newid enw'r ddeddfwrfa i Senedd Cymru/ Welsh Parliament, gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 oed, diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad, a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn bwriadu rhoi'r newidiadau hyn ar waith erbyn 2021.  

 Wrth geisio mandad i gyflwyno'r Bil, dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

"Mae'r Comisiwn yn ddiolchgar i bawb sy'n parhau i drafod y materion hyn â ni. Rydym yn credu y bydd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn rhoi llais cryfach i bobl ifanc yn nyfodol ein cenedl, gan arwain at wella cyfranogiad ein cenhedlaeth nesaf yn ein democratiaeth a'n senedd wrth iddi gychwyn ei thrydedd degawd yn gwasanaethu pobl Cymru." 

Daw penderfyniad y Comisiwn i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn dilyn Datganiad Ysgrifenedig gan y Llywydd ym mis Gorffennaf 2018. Cyhoeddodd y Llywydd becyn o ddiwygiadau i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol. Mae llawer o'r diwygiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn ei adroddiad: Senedd sy'n gweithio i Gymru ac roeddent yn destun ymgynghoriad yn gynharach eleni. 

 Mae adroddiad ymgynghori llawn wedi cael ei gyhoeddi, yn ogystal ag adroddiad cryno a fersiwn hawdd ei ddarllen. 

Ar ôl i'r cynigion a'r gwelliannau a awgrymir gael eu cyflwyno, bydd un o bwyllgorau'r Cynulliad yn eu trafod yn fanwl cyn rhoi pleidlais derfynol i'r 60 o aelodau. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf 40 o aelodau yn pleidleisio o'i blaid er mwyn iddo ddod yn gyfraith. 

Yn ogystal â'r diwygiadau y mae'r Bil hwn yn eu cynnig, mae Aelodau'r Cynulliad a'r pleidiau gwleidyddol yn ystyried materion eraill o hyd, gan gynnwys: maint y Cynulliad yn y dyfodol, sut y dylid ethol Aelodau, a sut y gellid cynyddu amrywiaeth. Os cytunir arnynt, bydd yr elfennau hyn yn ffurfio ail gam y rhaglen ddiwygio yn nes ymlaen yn nhymor y Cynulliad.