Comisiwn y Cynulliad yn croesawu arweiniad ar ei wasanaethau dwyieithog yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 19/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad yn croesawu arweiniad ar ei wasanaethau dwyieithog yn y dyfodol

19 Mai 2010

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu a derbyn argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog, a gyhoeddwyd heddiw (19 Mai 2010).

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn: “Er mwyn cael y cyngor a’r arbenigedd gorau posibl, a chasglu barn amrywiaeth eang o bobl, penderfynodd Comisiwn y Cynulliad benodi panel annibynnol i edrych ar wasanaethau dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, mae’n ddyletswydd ar y Cynulliad i hysbysu pob dinesydd ac Aelod Cynulliad ynghylch y broses ddemocrataidd ac i’w galluogi i gymryd rhan ynddi, a hynny yn un o ddwy iaith swyddogol Cymru – yn Gymraeg neu’n Saesneg.

“Mae’r Cynulliad eisoes yn sefydliad enghreifftiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd. Mae’r Comisiwn yn ymrwymedig i sicrhau bod y sefyllfa’n parhau fel hyn drwy gryfhau statws y Gymraeg yng ngwaith y Comisiwn a’r Cynulliad, a hynny mewn ffordd sy’n effeithiol, yn ymarferol ac yn berthnasol.

“Un o brif amcanion y Trydydd Cynulliad yw sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn falch o ddilyn argymhellion y Panel, yn arbennig ei gynnig ynghylch sicrhau bod cofnodion o drafodion y Cynulliad yn haws eu defnyddio, a hynny drwy ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Panel am ei waith yn ceisio barn cynulleidfa mor eang â phosibl.”

Mae prif argymhellion y Panel yn cynnwys cyhoeddi cofnod testun gair am air o drafodion yn yr iaith/ieithoedd gwreiddiol a draddodwyd, ynghyd â chofnod o’r cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg, fel y’i traddodwyd yn ystod trafodion y Cynulliad.

Mae’r Panel hefyd yn argymell mai senedd.tv ddylai fod y prif gofnod cynhwysfawr a gedwir ar gyfer ymchwilwyr a haneswyr yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae’r Panel am weld mwy o adnoddau’n cael eu targedu at gynyddu ymwybyddiaeth y dinesydd o waith y Cynulliad a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn ei waith. Mae hefyd am weld mwy o fesurau ymarferol yn cael eu cyflwyno i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y Cynulliad o ddydd i ddydd.

Mae adroddiad ac argymhellion y Panel yn sail ragorol i gyflawni uchelgais y Cynulliad o ddod yn “sefydliad gwirioneddol ddwyieithog” ac i wneud y defnydd gorau o dechnoleg gwybodaeth fodern er mwyn sicrhau bod busnes y Cynulliad yn fwy hygyrch ac yn sicrhau gwell gwerth am arian.

Yn ogystal, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau y bydd yn edrych ar ffyrdd posibl o sicrhau bod darpariaeth fanwl mewn deddfwriaeth i sicrhau statws cyfartal i’r ddwy iaith ym musnes y Cynulliad a ffyrdd o adlewyrchu hyn yn ei arferion gwaith.

Y Comisiwn