Comisiynydd Safonau i gael mwy o rym os caiff deddf newydd arfaethedig ei mabwysiadu

Cyhoeddwyd 25/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiynydd Safonau i gael mwy o rym os caiff deddf newydd arfaethedig ei mabwysiadu

Byddai deddf newydd arfaethedig (Mesur Cynulliad) yn rhoi’r grym i Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu gweld yr holl dystiolaeth mewn perthynas â chwyn.

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i’r Comisiynydd ddibynnu ar i drydydd partïon ddarparu’n wirfoddol y dogfennau a’r wybodaeth berthnasol.

Ond, o dan y Mesur Cynulliad newydd cyntaf erioed i gael ei gynnig yn uniongyrchol gan bwyllgor Cynulliad, gellid rhoi grym i’r Comisiynydd ymchwilio i gwynion yn fwy trwyadl yn y dyfodol.

“Bydd y mesur arfaethedig hwn yn sicrhau y bydd gennym y safonau uchaf o ymddygiad ac atebolrwydd mewn swydd gyhoeddus. Unwaith y caiff ei benodi, bydd y Comisiynydd yn hollol annibynnol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,’’ meddai Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

“Gallai’r Comisiynydd felly ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad gyda gwrthrychedd llwyr.

“Byddai’r ddeddf hefyd yn rhoi mwy o rym i’r Comisiynydd o ran cymell trydydd partïon i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol.”

Y Mesur Cynulliad arfaethedig yw’r cyntaf i ddod gan bwyllgor.

Unwaith y caiff ei osod gerbron, caiff egwyddor y mesur arfaethedig ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ac wedyn aiff yn ôl i bwyllgor deddfwriaeth i graffu arno ymhellach.

Byddai wedyn yn mynd yn ôl i’r Cyfarfod Llawn, gydag unrhyw welliannau, cyn y gellid ei basio’n derfynol gan y Cynulliad a’i gymeradwyo gan y Frenhines mewn cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor.