COVID-19

Cyhoeddwyd 10/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd wedi rhoi rhybudd clir heddiw bod COVID-19 eisoes wedi ymwreiddio anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor sy'n canolbwyntio ar effaith y pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith bod ein tebygolrwydd o farw, colli swyddi neu syrthio ar ei hôl hi mewn addysg yn dibynnu'n rhannol ar ein hoedran, hil, rhyw, anabledd, incwm a lle ry' ni'n byw. Mae'r feirws, a'r ymateb iddo, yn gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol drwy leihau incwm a chynyddu'r risgiau i grwpiau o bobl sydd eisioes o dan anfantais mewn modd anghyfartal.

Mae'r Pwyllgor yn gosod cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac mae'n credu, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y cam adfer, ei bod yn bwysig dysgu gwersi er mwyn osgoi ailadrodd camgymeriadau, rhag ofn y bydd ail don o haint

Pwysleisiodd llawer o'r rhai roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad fod angen gweithredu ar unwaith, yn hytrach na chreu rhagor o strategaethau. Mae'r Pwyllgor yn credu bod yn rhaid i gynllun adfer Llywodraeth Cymru gael ei dargedu at y rhai sydd wedi colli mwyaf.

Data ac ymgysylltu â dinasyddion

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw'r data sydd ar gael o ansawdd digonol o ran cyflogaeth, na chanlyniadau iechyd. Er mwyn deall y problemau a achosir gan y pandemig ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gasglu data gwell a chynnal gwaith ymgysylltu ystyrlon â dinasyddion er mwyn sicrhau bod ymyriadau'n cael eu targedu ac nad ydynt yn creu rhwystrau ychwanegol.

Gwybod pa gymorth sydd ar gael

Mae'r pandemig wedi cael effaith drychinebus ar economi Cymru, gyda gweithwyr yn colli incwm drwy gael eu rhoi ar ffyrlo, toriadau mewn oriau neu gyflogau, colli swyddi a llawer o fusnesau wedi gorfod cau gan golli symiau incwm sylweddol. 

Gan fod Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Llywodraeth y DU (cynllun 'ffyrlo') yn dod i ben ym mis Hydref, mae'n ymddangos yn debygol y bydd llawer o weithwyr 'ffyrlo" yn cael eu diswyddo. Mae'n hanfodol bod y bobl hyn yn gallu cael cymorth a chyngor ynghylch eu hawliau cyflogaeth a budd-daliadau.  Bydd miloedd o bobl yn defnyddio'r system budd-daliadau am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod hwn, a gallant fod yn gofyn am gyngor ar gymorth gyda hawliau diswyddo, help talu biliau, a chostau eraill.

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am yr adroddiad:

"Mae effaith COVID-19 wedi taro Cymru'n galed ac wedi effeithio ar grwpiau sydd eisoes dan anfantais yn y gymdeithas mewn modd anghyfartal. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd a gweithredu'n gyflym i gefnogi'r rhai wedi eu taro galetaf.

"Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o gymorth, mae'r dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos bod yn rhaid i'r ymrwymiad hwn i gydraddoldeb a hawliau dynol symud y tu hwnt i'r sefyllfa uniongyrchol a dechrau cynllunio ar gyfer Cymru decach. Ynghyd â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, mae'r cyfnod hwn wedi taflu goleuni anghyfforddus ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yn ein cymdeithas.

"Bydd cynllun 'ffyrlo' Llywodraeth y DU yn dod i ben yn fuan a gallai llawer o bobl golli eu swyddi pan fydd hyn yn digwydd.  Mae'n hanfodol bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau a'r ymorth sydd ar gael i'w hatal rhag mynd i anawsterau wrth i ni symud at gam nesaf yr argyfwng.

"Mae ein hadroddiad heddiw yn nodi argymhellion arwyddocaol i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a gwneud popeth yn ein gallu i helpu'r rhai a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig creulon hwn.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith, yn hytrach na chreu rhagor o strategaethau."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Amlygu’r materion:anghydraddoldeb a’r pandemig (PDF, 428 KB)