Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym Mangor

Cyhoeddwyd 11/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2017

​Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod ym Mangor am 10.00 ddydd Gwener 14 Gorffennaf i drafod economi Cymru.

Cyn datblygu Strategaeth Economaidd newydd i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Pwyllgor, sy'n cynnwys holl gadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ac a gaiff ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd Ann Jones AC, yn trafod materion o bwys allweddol â'r Prif Weinidog.

 

Mae'r strategaeth yn cael ei datblygu ar adeg pan fo economi Cymru yn wynebu nifer o heriau, rhai ohonynt sy'n gyffredin â gweddill y DU ac eraill yn unigryw i Gymru:

  • Mae gan Gymru werth ychwanegol crynswth (GVA) is y pen o'i gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr;

  • Mae llawer o gymunedau'n parhau i gael trafferth yn ymdopi ag effeithiau dad-ddiwydiannu, ac mae tlodi ac anghydraddoldeb yn heriau parhaus; ac

  • Mae effeithiau tymor byr a thymor hwy gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr economi yn parhau'n ansicr iawn.

"Â Brexit ar y gorwel a'r ansicrwydd y mae'n ei greu, mae cydbwysedd economi Cymru yn sigledig," meddai Ann Jones AC.

"Byddwn yn ceisio sicrhau bod y Prif Weinidog a'i lywodraeth yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i sicrhau economi gryfach sydd o fudd i Gymru gyfan.

"Mae datblygu Strategaeth Economaidd newydd i Gymru yn gam pwysig ac rydym yn bwriadu archwilio'n drylwyr y meddylfryd y tu ôl i benderfyniadau Llywodraeth Cymru."

Gall pobl ddod i'r cyfarfod yng Nghanolfan Reoli Prifysgol Bangor, neu ddilyn y trafodion trwy wefan fideo'r Cynulliad Cenedlaethol, Senedd TV.

Dylai unrhyw un sydd am fynd i'r cyfarfod archebu lle drwy gysylltu â llinell archebu'r Cynulliad ar 0300 200 6565, neu drwy anfon e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru.