Creu Senedd sy'n addas i Gymru

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu elfennau allweddol o'i raglen i ddiwygio senedd Cymru. Cyhoeddwyd y cynlluniau mewn datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad gan y Llywydd ac maent yn amlinellu dull gweithredu dau gam.

Ymgynghoriad ynghylch Creu Senedd i Gymru

Yn y cyntaf, mae'r Comisiwn yn bwriadu deddfu i ostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 a newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru / Welsh Parliament er mwyn adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol yn well. Bydd cynigion hefyd yn cynnwys newidiadau i'r rheolau ar waharddiad rhag bod yn Aelod Cynulliad, ac i gyflwyno diwygiadau sefydliadol eraill. 

Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar y cynnydd ym maint y Cynulliad a'r penderfyniad cysylltiedig ar ba system bleidleisio y dylid ei defnyddio i ethol Aelodau'r Cynulliad. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i ganiatáu rhagor o amser i drafod y materion hyn â phleidiau gwleidyddol dros y misoedd nesaf. Bydd y trafodaethau hyn yn galluogi penderfyniad i gael ei wneud ar allu'r Comisiwn i ddeddfu ar y materion hyn cyn 2021. 

Mae penderfyniadau'r Comisiwn ar Ddiwygio'r Cynulliad wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â chyhoeddiad crynodeb o ganfyddiadau allweddol ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn, sef Creu Senedd i Gymru. Gofynnodd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 6 Ebrill 2018, i bobl yng Nghymru rannu eu barn am ystod o gynigion, gan gynnwys argymhellion y Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.  

Argymhellodd y Panel, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister CBE, ym mis Rhagfyr 2017, y dylai'r hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad gael ei rhoi i bobl 16 a 17 oed. 

Cafwyd mwy na 3,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad a gallai'r ymatebwyr ddewis ateb pob cwestiwn, neu'r rhai sydd o'r diddordeb mwyaf iddynt. 

O'r 1,530 a ymatebodd i'r cwestiwn ynghylch yr oedran pleidleisio, cytunodd 59 y cant y dylid ei ostwng i 16 oed. 

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae grymuso pobl ifanc 16 oed i bleidleisio'n ddatganiad pwerus gan y Cynulliad ein bod yn gwerthfawrogi eu barn." 

"Bydd yn rhaid i bleidleisiau yn 16 oed gyd-fynd ag addysg briodol o ran gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth a gwaith codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a'u cefnogi i arfer eu hawl i bleidleisio.  

"Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys ein Senedd Ieuenctid ein hunain i gefnogi'r angen hwn." 

Mae'r Comisiwn yn bwriadu deddfu i newid yr oedran pleidleisio isaf mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2021 ac i newid yr enw i Senedd Cymru flwyddyn cyn yr etholiad.  

Gwnaeth y Panel Arbenigol argymhellion hefyd ynghylch y nifer o Aelodau Cynulliad y dylid eu cael, a sut y dylid eu hethol. 

Canfu ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn o'r rhai a ymatebodd i'r cwestiynau perthnasol: 

  • fod 56 y cant yn cytuno y dylid cael rhagor o Aelodau'r Cynulliad; 

  • fod 95 y cant yn dweud mai'r nifer ddelfrydol yw rhwng 80 a 90 o Aelodau Cynulliad; a 

  • bod 54 y cant o blaid y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy o ethol Aelodau. 

Dywedodd Elin Jones AC: 

"Mae'n glod i'r pleidiau gwleidyddol eu bod wedi rhoi o'u hamser i weithio trwy rai o'r materion pwysig hyn ac i gyflwyno syniadau ar sut y gellir datblygu'r materion hyn a chael cefnogaeth o leiaf ddwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.   

"Gyda phwysau cynyddol a chyfrifoldebau ychwanegol y senedd hon, fy marn i yw bod angen i ni weithredu cyn gynted â phosibl. Yr unig ddewis arall yw derbyn y bydd senedd Cymru yn wynebu bron degawd arall o fod heb ddigon o bŵer. 

"Fel casgliad Cadeirydd y Panel Arbenigol yn yr adroddiad, ni all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni ar gyfer y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.  

"Mae gennym gyfle nawr i wneud ein senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol; er mwyn creu'r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru yn ei haeddu i hyrwyddo eu buddiannau ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif." 

Roedd y Panel Arbenigol hefyd yn argymell gadael i bobl sefyll ar gyfer etholiad ar sail rhannu swydd. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn erbyn yr awgrym hwn, gyda 52 y cant o'r ymatebion i'r cwestiwn perthnasol yn ei wrthod.  

Ar y cyfan, daeth y Comisiwn i'r un casgliad. Er y derbynnir bod nifer o ffactorau sy'n gwneud hwn yn syniad deniadol, nid oes digon o gefnogaeth i'r cynnig hwn ar hyn o bryd. Mae amheuaeth hefyd a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i weithredu'r polisi, yn benodol i alluogi Aelod sy'n rhannu swydd i ddod yn Weinidog neu'n Ysgrifennydd Cabinet. 

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ymgynghoriad ynghylch Creu Senedd i Gymru: Crynodeb o’r prif ganfyddiadau (PDF, 1.8MB)