Cyffro’r gemau ail gyfle yn cydio yn y Cynulliad Cenedlaethol wrth i flwyddyn orau pêl-droed Cymru barhau

Cyhoeddwyd 01/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyffro’r gemau ail gyfle yn cydio yn y Cynulliad Cenedlaethol wrth i flwyddyn orau pêl-droed Cymru barhau

1 Mai 2013

Mae cyffro’r gemau ail gyfle wedi cydio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wrth i ddau dîm pêl-droed o Gymru wynebu ei gilydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle y Gyngres ddydd Sul (5 Mai).

Bydd Wrecsam a Chasnewydd yn wynebu ei gilydd yn y gêm fawr yn Wembley lle bydd yr enillydd yn cael ei ddyrchafu i’r Gynghrair Bêl-droed.

Prif gefnogwr tîm pêl-droed Casnewydd yw Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad a’r Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd.

Dywedodd y Llywydd, “A minnau wedi bod yn cynrychioli Gorllewin Casnewydd yn y Cynulliad ers 1999, yn amlwg, rwyf gant y cant y tu ôl i fy nhîm.

“Ond hoffwn ddymuno’n dda i’r ddau dîm a’r holl gefnogwyr cyn y gêm, a pha bynnag dîm fydd yn ennill, rwy’n gobeithio y bydd yn llwyddiannus yn y Gynghrair Bêl-droed y tymor nesaf.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig arall mewn blwyddyn sy’n prysur ddod yn un o’r gorau yn hanes pêl-droed Cymru.

“Mae Wrecsam eisoes wedi bod yn llwyddiannus y tymor hwn gan ennill Tlws yr FA, tra bod Dinas Caerdydd wedi llwyddo i gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair, ac enillodd Abertawe Gwpan y Gynghrair yn Wembley.

“Gobeithio y byddwn yn gweld rhagor o lwyddiant i un o’n timau yn ystod y tymor pêl-droed gwych hwn, ond yn bwysicach efallai y bydd yn gadael gwaddol y gall pêl-droed ar lawr gwlad adeiladu arno.”