Cyfle i 60 o bobl ifanc nodi 10 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru mewn barddoniaeth.

Cyhoeddwyd 29/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfle i 60 o bobl ifanc nodi 10 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru mewn barddoniaeth

29 Medi 2009

Bydd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cael eu hannog heddiw (Medi 29) i gael eu hysbrydoli gan y Senedd ac i ysgrifennu barddoniaeth am ddatganoli.

Byddant yn cymryd rhan yn nigwyddiad Sgwadiau Sgwennu Academi, sef y corff sy’n hyrwyddo llenyddiaeth, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y bobl ifanc, o ysgolion ledled Cymru, yn mynd ar daith o gwmpas y Senedd ac yn cymryd rhan mewn dadl yn Siambr Hywel.

Yna byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu gyda’r beirdd Cymreig Ceri Wyn Jones, Gillian Clarke, a Robert Minhinnick, a fydd yn gyfle iddynt gael eu hysbrydoli i ysgrifennu barddoniaeth am ddatganoli a’i effaith ar Gymru.

Rydym yn fwy na pharod i gefnogi digwyddiad o’r math hwn,” meddai Peter Black AC, Comisiynydd Addysg y Cynulliad.

Nid yn unig ei fod yn annog pobl ifanc i ddechrau ysgrifennu, a fydd, gobeithio, yn diogelu dyfodol ein treftadaeth lenyddol Gymreig wych yn y dyfodol, ond mae hefyd yn cyflwyno’r gwaith rydym yn ei wneud yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru iddynt.”