Cyfle i ddweud eich dweud am y sector tai rhent preifat – pwyllgor y Cynulliad yn lansio ymchwiliad
8 Hydref 2010Heddiw, lansiodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i’r sector tai rhent preifat yng Nghymru, ac mae’n gwahodd partïon sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad.
Bydd y Pwyllgor yn edrych ar nifer o feysydd, gan gynnwys a fyddai modd defnyddio’r sector yn fwy effeithiol i ysgafnhau’r baich ar restrau aros tai cymdeithasol ac i ddarparu llety ar gyfer y rhai na allant brynu cartref.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar y potensial o ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto fel eiddo i’w rhentu a chanfod newidaidau eraill er mwyn codi safonau o fewn y sector.
Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 11 y cant o aelwydydd Cymru yn byw yn y sector rhentu preifat.
“Er bod hyn yn ymddangos fel cyfran gymharol fach o’r stoc tai, mae’n uwch na chyfran y rhai sy’n byw mewn tai sy’n eiddo i’r awdurdodau lleol neu i gymdeithasau tai ac mae’r hinsawdd economaidd bresennol wedi amlygu’r potensial sydd gan y sector i ddiwallu anghenion tai Cymru.
“Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad hwn yn rhoi syniad clir i ni o sut i wneud y mwyaf o’r sector rhentu preifat er mwyn iddo fod yn ddewis deiliadaeth effeithiol.”
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor drwy
e-bost: culture.committee@cymru.gov.uk neu drwy’r post: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA, erbyn dydd Gwener 10 Rhagfyr 2010.