Cyflwyniad ffurfiol o’r ddeiseb: Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2015

​Cafodd cyflwyniad ffurfiol o'r ddeiseb: Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru ei gynnal ar dydd Mercher 10 Mehefin.

Members of Friends of Bridgend Youth Music handing over their petition: To Protect the Future of Youth Music in Wales.
Aelodau o Cyfeillion Cerddoriaeth Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno deiseb Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru.

     

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu addysg gerdd mewn ysgolion ac yn benodol i:

Adfer yr arfer o neilltuo a gwarchod cyllidebau canolog ar gyfer addysg offerynnol proffesiynol mewn ysgolion;
 
Gweithredu strategaeth genedlaethol i wrthdroi'r dirywiad yng ngwasanaeth Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru;

Cynnig hawl i blant a phobl ifanc Cymru i gael addysg sy'n datblygu eu personoliaethau, doniau a galluoedd unigryw yn llawn.

 

Manylion Pellach gan y rhai fydd yn cyflwyno'r ddeiseb:

Yn hanesyddol, ystyriwyd Cymru yn wlad gerddorol o'r radd flaenaf. Caiff ei chydnabod yn fyd eang fel y wlad gyntaf i gael ei Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol ei hun. Ers 1928, mae rhaglen gerddoriaeth tebyg i raglen "El Sistema" wedi bod ar waith yng Nghymru, y mae gwledydd eraill bellach yn ystyried ei gweithredu. Ers cyhoeddi canfyddiadau'r grŵp adolygu Polisi Cerddoriaeth ym mis Mai 2010, mae anghydraddoldeb ac ansicrwydd darpariaeth wedi bod yn y newyddion.  O ran gwarchod y cyfle i gael addysg offerynnol ac i ymarfer a pherfformio gydag eraill, mae Cymru bellach ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae neilltuo a gwarchod eisoes yn digwydd. Mae'n galonogol clywed bod ffyrdd newydd o weithio yn cael eu hystyried i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael.

Mae neilltuo a gwarchod yn gyfle i sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn y brif ffrwd, gan barhau â'r system safon broffesiynol sydd ar gael i bawb ac sydd eisoes ar waith, yn hytrach na bod cerddoriaeth yn dod yn beth elitaidd neu ar y cyrion.

Rydym yn ystyried ei bod yn hanfodol nid dim ond i ddiogelu ein treftadaeth gerddorol, ond hefyd i helpu i ddatblygu cenedlaethau yn y dyfodol, drwy roi mynediad i bobl ifanc i holl fanteision cerddoriaeth.