Cyflwyniad ffurfiol o’r ddeiseb: Dyfodol Addysg Bellach

Cyhoeddwyd 30/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2015

Llun o cyflwyniad ffurfiol o’r ddeiseb Dyfodol Addysg Bellach  

Cyflwyniad ffurfiol o'r ddeiseb: Dyfodol Addysg Bellach ar dydd Mawrth 30 Mehefin am 13.00.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri £26 miliwn o'r cyllid ar gyfer Addysg Bellach yn y flwyddyn 2015/16 ac yn cydnabod bod y toriad o 8 y cant i gyllideb Cymru, a gyflwynwyd gan San Steffan, wedi creu heriau ariannol i Gymru. Fodd bynnag, nid ydym yn deall penderfyniadau Llywodraeth Cymru, yn dilyn hynny, i ddyrannu'r arian o San Steffan mewn ffordd a fydd yn arwain at galedi mawr i aelod allweddol o'r 'Teulu Addysg' yng Nghymru. Mae colegau wedi ymdopi'n rhagorol â sawl blwyddyn yn olynol o doriadau cyllid ac ni allwn weld sut y gallant barhau i gyflawni'r cylch gwaith a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi polisi Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n fwy ar gyfraniadau cyflogwyr er mwyn ariannu hyfforddiant cyflogeion, ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hynny'n ddigon i lenwi'r bwlch yn sgil toriadau'r Llywodraeth. At hynny, bydd y toriad o 50% i gyllid cyrsiau rhan-amser yn gwneud difrod sylweddol i ddarpariaeth addysg bellach gan adael miloedd o oedolion heb fynediad at gyfleoedd i wella eu haddysg neu ailhyfforddi. Bydd hefyd yn peryglu cannoedd o swyddi addysg bellach. Mae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru yn sgil toriadau cyllid blaenorol a chyfres o fentrau uno, ond maent bellach wedi cyrraedd pen eu tennyn.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhoi'r toriadau hyn ar waith ac i fuddsoddi'n briodol mewn cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.