Cyflwyno deiseb – Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Cyhoeddwyd 22/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/09/2015

 

Mae deiseb yn gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol alw pob Cais Cynllunio'n ymwneud â Datblygiadau Olew a Nwy Anghonfensiynol i mewn wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Deisebau.

Dyma eiriad llawn y ddeiseb:

Rydym yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddiwygio CYFARWYDDYD CYNLLUNIO GWLAD A THREF (HYSBYSU) (OLEW A NWY ANGHONFENSIYNOL) (CYMRU) 2015 er mwyn galw pob cais cynllunio'n ymwneud â datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol i mewn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys drilio arbrofol am nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol.

Bydd aelodau'r Pwyllgor Deisebau yn derbyn y ddeiseb ar risiau'r Senedd.

Mae'r ddeiseb wedi casglu 1254 o lofnodion ac wedi'i threfnu gan Frack Free Wales.