Cyflwyno deiseb Sporttrain yn y Senedd

Cyhoeddwyd 29/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyflwyno deiseb Sporttrain yn y Senedd

29 Tachwedd 2011

Cafodd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw’r gwasanaethau cymunedol y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda ac yn Grangetown ei chyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau yn y Senedd ar 29 Tachwedd am 12.45 pm.

Mae Sportrain yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc sy’n cynnwys hyfforddiant gwaith, hyfforddiant ymgysylltu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, dysgu cymunedol, gwasanaethau lles, cymorth a chwnsela, hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau cymunedol.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i aelodau o’r Pwyllgor Deisebau traws-bleidiol sy’n cael ei gadeirio gan William Powell, Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.