Cyfrif y diwrnodau tan y refferendwm

Cyhoeddwyd 16/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfrif y diwrnodau tan y refferendwm

16 Rhagfyr 2010

Mae’r broses o gyfrif y diwrnodau tan y refferendwm ar bwerau deddfu pellach ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau’n swyddogol.

Mae’r Cyfrin Gyngor wedi cymeradwyo’n ffurfiol y Gorchymyn sy’n pennu cwestiwn y refferendwm a’r dyddiad y bydd yn cael ei gynnal, sef 3 Mawrth 2011.

Cytunodd Aelodau’r Cynulliad ar y Gorchymyn yn y Senedd fis diwethaf.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio cloc sy’n cyfrif y diwrnodau tan y refferendwm ar ei wefan yn www.cynulliadcymru.org. Mae’r cloc yn dangos nifer y diwrnodau tan fod y gorsafoedd pleidleisio yn agor ar gyfer y refferendwm ac etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai.

Cynhelir pleidlais ar draws y DU ar fabwysiadu system y bleidlais amgen ar gyfer etholiad nesaf Senedd y DU ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau â’i ymgyrch i ddarparu gwybodaeth wrthrychol a diduedd am y penderfyniadau sy’n wynebu pleidleiswyr Cymru flwyddyn nesaf.

Mae bws y Cynulliad eisoes ar daith o amgylch y 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, hefyd yn ymweld â digwyddiadau allweddol i annog pobl i fynd i bleidleisio.

Sefydlwyd microwefan yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiadau yn www.cynulliadcymru.org/vote2011.