Cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru 2019-20 – Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2020

​Mae Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i farn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. 

Dywedodd Mr Ramsay: 

"Prin iawn y caiff barn amodol ei rhoi ar gyfrifon y Llywodraeth ac, o ystyried y symiau dan sylw - bron i dri chwarter biliwn o bunnoedd - mae'n fater o bwys cyhoeddus bod y mater hwn yn cael ei archwilio'n fanwl gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. 

"O ran natur y gwariant, ni ellir amau nad oedd yn hanfodol ar gyfer cefnogi busnes yn ystod pandemig sy'n dal i fynd rhagddo, ond mae gennym bryder o ran tryloywder y ffordd y cofnodwyd y gwariant hwn yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru. 

"Wrth inni barhau i graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20, byddwn yn trin a thrafod y mater hwn a sicrhau bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a'r Senedd gyfan, yn gallu craffu'n effeithiol ar y farn amodol hon ac enghreifftiau tebyg nawr ac yn y dyfodol." 

"Byddwn yn cymryd tystiolaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar ei chyfrifon ar 7 Rhagfyr 2020, a byddwn yn llunio adroddiad ar ein canfyddiadau maes o law." 

Wrth roi barn ''amodol'', adroddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys yn ei chyfrifon ar gyfer 2019-20 y cymorth gwerth £739 miliwn ar gyfer busnesau Cymru fel rhan o'i phecyn cymorth economaidd yn ystod y pandemig. 

Mae dull Llywodraeth Cymru yn wahanol i ddull llywodraethau eraill y DU, gan eu bod wedi cynnwys costau tebyg yn eu cyfrifon ar gyfer 2019-20, ac er i hynny arwain at orwariant, roedd yn golygu bod eu cyfrifon wedi cael barn amodol ar sail reoleiddiol yn unig. 

Pe bai'r £739 miliwn wedi cael ei gynnwys yng nghyfrifon 2019-20, byddai Llywodraeth Cymru yn dangos gorwariant o £303 miliwn yn erbyn ei chyllideb gwerth dros £18 biliwn. 

Fel y mae, mae'r cyfrifon yn dangos tanwariant net gwerth £436 miliwn. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Archwilio Cymru.