Cyhoeddi Adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cyhoeddwyd 28/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi Adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol  

Mae Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol y Cynulliad wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007 arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol.  Dyma adroddiad cyntaf pwyllgor deddfwriaethol o’r math hwn.  

Sefydlwyd y Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mis Gorffennaf 2007 i drafod Gorchymyn arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol ac i adrodd arno.  Bu’r Pwyllgor yn ymgynghori’n eang ar draws y meysydd addysg a hyfforddiant er mwyn rhoi gwybod am ei waith, yn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a chan nifer o sefydliadau allweddol gan gynnwys Pwyllgor Rheolwyr Therapi Iaith a Lleferydd Cymru Gyfan, Y Comisiwn Hawliau Anabl, Comisiynydd Plant Cymru ac Estyn.   

Mae’r Pwyllgor yn cytuno, o ran egwyddor, y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ym maes anghenion dysgu ychwanegol.  Mae’n gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n cynnwys diwygio’r diffiniad o’r term “anabledd” yn y Gorchymyn arfaethedig, ac ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ym maes teithio ar gyfer pobl sy’n derbyn addysg uwch.  

Dywedodd Eleanor Burnham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Wrth graffu ar y Gorchymyn arfaethedig mabwysiadodd y Pwyllgor agwedd gynhwysol tuag at ei waith ac mae wedi gwrando’n ofalus ar farn rhanddeiliaid.  Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod y Gorchymyn arfaethedig, un o’r rhai cyntaf i gael ei gyflwyno o dan y pwerau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi bod yn destun gwaith craffu manwl ac effeithlon.  Rwy’n  annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi’r ystyriaeth ddyledus i’n hadroddiad a’n hargymhellion cyn cwblhau’r Gorchymyn drafft.”

Nodiadau ar gyfer golygyddion

Bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007 yn rhoi pwer i’r Cynulliad i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.              

Yr Adroddiad