Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gofal Cartref

Cyhoeddwyd 14/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gofal Cartref

Mae Pwyllgor GCD arfaethedig ynghylch Gofal Cartref y Cynulliad heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) Rhif 4) 2008 arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â chodi tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl.

Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2007 i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Gorchymynarfaethedigr. Bu’n ymgynghori’n helaeth ar draws y maes gofal cymdeithasol fel sail i’w waith. Hefyd, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan y Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghrair ar Godi Tâl Cymru a chan Gynghrair Gofalwyr Cymru. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cynnal cyfarfod ar y cyd â Phwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Ty’r Cyffredin, i dderbyn tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn ei adroddiad mae’r Pwyllgor yn cytuno, o ran egwyddor, y dylai Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei haddasu i roi i’r Cynulliad bwerau newydd i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, ym maes codi tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl.  Mae’n mynd ymlaen i wneud nifer o argymhellion i’r Dirprwy Weinidog.   Mae’r Pwyllgor yn argymell nifer o newidiadau drafftio i’r Gorchymyn arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gydag ef, gyda’r nod o sicrhau eglurder a chysondeb.

Dywedodd Joyce Watson AC, Cadeirydd y Pwyllgor:  “Mae’r codi tâl am ofal cymdeithasol amhreswyl yn faes pwysig sydd yn aml yn ennyn teimladau cryfion ac mae’r Pwyllgor yn credu’n bendant y dylai’r Cynulliad fod â’r pwerau i lunio cyfraith yn y maes hwn.  Fe ymgynghorodd y Pwyllgor yn eang a gwrando’n ofalus ar farn deiliaid diddordeb yn ystod y broses graffu. Fel Pwyllgor cawsom hefyd y fraint o gynnal sesiwn dystiolaeth ar y cyd â Phwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Ty’r Cyffredin. Buaswn yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi ystyriaeth deg i’n hadroddiad a’i argymhellion, ac adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig cyn gwneud yn derfynol y Gorchymyn drafft.”

Nodyn i olygyddion   

  • Os cytunir arno gan y Cynulliad a chan y Senedd, bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif   4)  2008 yn rhoi i’r Cynulliad y pwer i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes lles cymdeithasol.

  • Yn unol â Rheol Sefydlog 22, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno Gorchymyn drafft.  Yn ddim hwyrach na 40 diwrnod ar ôl cyflwyno Gorchymyn drafft, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig mewn Cyfarfod Llawn a yw am gymeradwyo’r Gorchymyn drafft ai peidio.