Ystafell y Pwyllgorau

Ystafell y Pwyllgorau

Astudiaeth annibynnol yn cynnig ffyrdd o gynyddu pŵer, effaith ac effeithiolrwydd Pwyllgorau'r Senedd

Cyhoeddwyd 18/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gwaith ymchwil wedi cael ei gyhoeddi yn edrych ar bŵer, effaith ac effeithiolrwydd Pwyllgorau'r Senedd, gyda'r nod o wella sut maent yn gweithio er budd pobl Cymru.

Caiff adroddiad Stirbu ei gyhoeddi heddiw, dydd Iau 18 Tachwedd 2021, gan Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a Chadeiryddion holl bwyllgorau'r Senedd (Fforwm y Cadeiryddion).

Roedd yr adroddiad yn cydnabod cryfderau presennol strwythurau ac arferion gwaith pwyllgorau'r Senedd, ond hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer cryfhau eu heffaith a'u heffeithiolrwydd ymhellach.

Cafodd ymchwil yr Athro Diana Stirbu o Brifysgol Metropolitan Llundain ei gomisiynu gan Fforwm Cadeiryddion y Senedd, a’i gynnal rhwng mis Medi 2020 ac Ionawr 2021, gyda’r nod o ddatblygu ffordd o werthuso effeithiolrwydd y pwyllgorau yn y Chweched Senedd.

Mae’n cynnwys argymhellion ar gyfer gwella effeithiolrwydd pwyllgorau (megis ymgorffori profiadau pobl gyffredin yng ngwaith pwyllgor, gwneud defnydd llawn o'r ystod o bwerau sydd ganddyn nhw) yn ogystal ag argymhellion i wella gwerthuso capasiti pwyllgorau (h.y. monitro amrywiaeth tystion, gan ymgorffori hunanwerthuso yn eu gwaith).

Meddai’r Athro Diana Stirbu o Brifysgol Metropolitan Llundain:

“Pwyllgorau’r Senedd yw calon bywyd democrataidd seneddol Cymru’. Mae eu gwaith yn allweddol ar gyfer cynrychiolaeth, goruchwyliaeth y llywodraeth ac atebolrwydd, ar gyfer sicrhau bod deddfwriaeth dda yn cael ei phasio, a pholisïau yn cael eu datblygu ar saith tystiolaeth dda. Mae'n hanfodol felly bod gwaith pwyllgorau yn effeithiol ac yn cael ei ddeall yn iawn nid yn unig gan ei aelodau ond hefyd gan ei randdeiliaid, y Cyfryngau a'r cyhoedd yng Nghymru.

“Mae'r gwaith hwn yn ymchwilio i'r hyn sy'n gwneud pwyllgorau'r Senedd yn effeithiol, a sut rydyn ni'n gwerthuso, cyfathrebu a dysgu o effaith eu gwaith? Daeth yr adroddiad hwn o hyd i lawer iawn o esiamplau o arferion da yng ngwaith y pwyllgorau y gall y Senedd eu datblygu ymhellach yn y tymor newydd. Mae'r argymhellion a wneir gan yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 1) sut y gall pwyllgorau fod yn fwy effeithiol a rhoi mwy o ddylanwad ar eu prif randdeiliaid (h.y Llywodraeth Cymru), a 2) sut y gall pwyllgorau wella ac ehangu eu harfer gwerthuso, a thrwy hynny sicrhau gwelliant parhaus i'w gwaith yng ngoleuni cyfleoedd cyffrous a heriau'r 6ed tymor.”

Trafodwyd a chymeradwywyd yr adroddiad gan Fforwm Cadeiryddion y Senedd yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2021, gydag ymrwymiad i oruchwylio gweithrediad argymhellion yr Athro Stirbu drwy gydol y Senedd bresennol.

Elin Jones AS

Mewn ymateb i gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Elin Jones AS, Llywydd Senedd Cymru:

“Fel senedd fodern, mae’n rhaid i ni gymryd camau i ddeall yr effaith y mae ein gwaith yn ei chael ac ymdrechu o hyd i wella’r hyn a wnawn er budd pobl Cymru. Dyna pam y gwnaethom ni gomisiynu'r Athro Stirbu i ddatblygu fframwaith er mwyn i’n pwyllgorau ddeall effaith eu gwaith yn well.

“Rydym yn croesawu adroddiad yr Athro Stirbu yn fawr. Mae'n dangos yr arfer da y mae’r Senedd wedi’i ddatblygu hyd yma, ond mae hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer asesu ein heffaith a'n heffeithiolrwydd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gryfhau gwaith pwyllgorau'r Senedd.”

Mae gwaith i weithredu ar argymhellion yr adroddiad eisoes wedi cychwyn, gyda phroses newydd i fonitro amrywiaeth wrth i bwyllgorau fynd ati i gasglu tystiolaeth. Bydd y cynllun monitro yn galluogi’r pwyllgorau i ddeall yn well pwy sy'n ymgysylltu â'u hymchwiliadau a phwy sydd ddim, a dylunio ffyrdd newydd o gasglu safbwyntiau ac arbenigedd.

 

Mae'r adroddiad - Pwer, Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau'r Senedd - wedi ei gyhoeddi yn llawn yma

Mae crynodeb o ganfyddiadau a chefndir yr adroddiad ar gael yn yr erthygl hon ar Blog Ymchwil y Senedd