Mae’r artistiaid fydd yn perfformio mewn gig unigryw yn y Senedd ar ddiwedd mis Medi wedi cael eu cyhoeddi, sef: Geraint Jarman, Eädyth & Jukebox, Gwilym, Rachel K Collier ac Afro Cluster.
Mi fydd Gig GWLAD yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ar nos Sadwrn 28 Medi, gan ddechrau am 8.00 yhMae’r tocynnau yn rhad ac am ddim ac ar gael i’w harchebu nawr ar wefan www.datganoli20.cymru/gwlad
Fel rhan o ŵyl GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol, mae’r gig wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, BBC Gorwelion a’r hyrwyddwyr cerddoriaeth Pyst. Mi fydd yn ddathliad o ddoniau disglair cerddoriaeth gyfoes Cymru, ac yn rhan o amserlen amrywiol yr ŵyl sy’n cynnwys sgyrsiau, trafodaethau, celf a chomedi.
Y cerddor a’r bardd dylanwadol Geraint Jarman fydd yn cloi noson o gerddoriaeth amrywiol. Mae rhai o’r artistiaid yn berfformwyr profiadol ac eraill wedi ennill clod ar ddechrau eu gyrfaoedd gyda chefnogaeth BBC Gorwelion:
Geraint Jarman - Cerddor, canwr a bardd sydd wedi dylanwadu ar y sîn gerddoriaeth ers y 1960au fel perfformiwr unigol a gyda’r grŵp Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr. Fe gyflwynodd arddulliau gwahanol o gerddoriaeth fel reggae i’r iaith Gymraeg, a defnyddio’i gerddoriaeth i leisio anghydfod cymdeithasol a phrotest. Mae ei ddylanwad yn parhau yn gryf ar artistiaid newydd hyd heddiw.
Eädyth & Jukebox - Cerddoriaeth ddawns electronig o’r safon gorau. Mae llais Eädyth, ynghyd a’i gallu i ysgrifennu caneuon a’u perfformio’n fyw mewn sioeau anhygoel, yn wefreiddiol.
Gwilym - Indi-rocwyr o Gaernarfon ac Ynys Môn; prif berfformwyr Dydd Miwsig Cymru; ac enillwyr pum tlws Gwobrau Selar 2019.
Rachel K Collier - Cherddor a chynhyrchydd electronig gwefreiddiol sy’n perfformio ar ei phen ei hun. Mae hi’n adnabyddus am ei chasgliad o offerynnau technegol y mae hi’n eu defnyddio er mwyn ail-greu cynyrchiadau stiwdio mewn perfformiadau llwyfan egnïol.
Afro Cluster - Casgliad o gerddorion dawnus o bob cwr o dde Cymru. Mae’r criw yma’n brawf fod y gerddoriaeth orau yn croesi ffiniau ac arddulliau, ac mae eu doniau a’u brwdfrydedd wedi ennill enw da fel un o’r bandiau byw gorau yng Nghymru.
Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru; “Mae cerddoriaeth yn rhan anhepgor o hunaniaeth a diwylliant pob cenedl hyderus. Ar y cyd â BBC Gorwelion a Pyst, rydym yn agor drysau’r Senedd i gynnal y gig unigryw yma a fydd yn gyfle i ymfalchïo a dathlu llewyrch cerddoriaeth yng Nghymru.”
Mae gŵyl GWLAD yn rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, a’r bwriad yw cychwyn sgwrs am Gymru yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar bynciau fel gwleidyddiaeth, diwylliant, amrywiaeth a chydraddoldeb, chwaraeon, iaith a’r cyfryngau. Mae’r ŵyl yn cynnwys cymysgedd o sesiynau; o sgyrsiau a trafodaethau i gelf, diwylliant, comedi a cherddoriaeth.
Ymhlith yr enwau adnabyddus eraill sy’n cymryd rhan mae sgyrsiau gyda'r cantores Charlotte Church, a'r actor Rhys Ifans, trafodaeth am chwaraeon gyda Colin Charvis a Tanni Grey-Thompson, ac amserlen lawn o drafodaethau gyda phartneriaid fel Gŵyl y Gelli, Cyngor Hil Cymru, Chwarae Teg, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Materion Cyhoeddus Cymru.
Mae modd pori’r amserlen lawn ac archebu’r tocynnau rhad ac am ddim ar wefan www.datganoli20.cymru/gwlad