Cyhoeddi cynigion newydd ar gyfer tâl a lwfansau Aelodau o'r Senedd

Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Yn sgil pandemig COVID-19, mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (y Bwrdd) wedi cynnig diwygio’r pecyn cymorth ar gyfer Aelodau'r Chweched Senedd (2021-26) (yn ei gyfarfod ddydd Iau 10 Rhagfyr).

Mae'r cynigion a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghoriad yn adlewyrchu pwyslais y Bwrdd ar wneud yn siŵr bod ei benderfyniadau yn sicrhau gwerth am arian a’u bod yn briodol yng nghyd-destun yr amgylchiadau ariannol ehangach yng Nghymru. 

Mae'r Bwrdd yn cynnig newid y cyflog cychwynnol i Aelodau'r Chweched Senedd i adlewyrchu’r ffaith bod cyflogau wedi’u rhewi eleni, ynghyd â rhoi terfyn uchaf ar unrhyw newidiadau cyflog blynyddol, gan ddechrau ym mis Mai 2021. 

Mae'r Bwrdd hefyd yn rhoi terfyn uchaf ar newidiadau blynyddol i dâl staff yr Aelodau yn ogystal â chynnig gwell trefniadau pensiwn i staff. Cynigir newidiadau hefyd i'r lwfans costau swyddfa.

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd:

“Roedd angen i ni ystyried nifer o faterion a oedd heb eu datrys wrth baratoi’r pecyn cymorth ar gyfer Aelodau'r Chweched Senedd ac mae'r Bwrdd wedi gwneud y cynigion hyn o dan amgylchiadau eithriadol pandemig y Coronafeirws.

“Bydd y cynigion hyn yn rhoi mwy o eglurder i'r Aelodau a'u staff ar yr adeg ansicr hon.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod y cynigion a meithrin perthynas waith effeithiol a phriodol â’r Aelodau, eu staff cymorth a rhanddeiliaid eraill, i lywio ein penderfyniadau terfynol.”

Yn gynharach eleni, penderfynodd y Bwrdd rewi cyflogau Aelodau o’r Senedd yn sgil yr amgylchiadau economaidd eithriadol sy'n deillio o bandemig y Coronafeirws. Erbyn hyn, mae'r Bwrdd yn cynnig dychwelyd at newidiadau blynyddol yn unol â’r newidiadau i gyflogau yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu bod yr Aelodau’n cael cynnydd o 2.4 y cant yn 2021 i’w cyflogau presennol sydd wedi’u rhewi ar £67,649. Pe na bai cyflogau’r Aelodau wedi’u rhewi, byddai eu cyflogau wedi cynyddu i £72,321 ym mis Mai 2021.

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood:

“Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol yn sgil pandemig y Coronafeirws, roedd y Bwrdd yn credu y byddai’n amhriodol i gyflogau’r Aelodau gynyddu 4.4 y cant eleni tra bod llawer o bobl yng Nghymru ar ffyrlo neu wedi colli eu swyddi, a thra bod cymaint o ansicrwydd o ran yr economi. Dyna pam y gwnaethom ni benderfynu rhewi cyflogau eleni.

“Ond mae’n rhaid i’r Bwrdd osod mynegai ar gyfer tymor pum mlynedd y Chweched Senedd gyfan, ac rydym yn cynnig dychwelyd y flwyddyn nesaf i gysylltu tâl Aelodau ag enillion cyfartalog gweithwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r risg o amrywiadau mawr o un flwyddyn i’r llall, rydym ni’n credu y dylid capio codiadau cyflog ar dri y cant. Byddwn ni’n ymgynghori ar hyn dros yr wythnosau nesaf.”