Cyhoeddi enillwyr yr ail falot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth

Cyhoeddwyd 29/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi enillwyr yr ail falot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth

29 November 2011

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi pa ddau gynnig sydd wedi ennill yn yr ail falot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth.

Bydd Peter Black AC a Mohammad Asghar AC yn cael gosod eu cynigion gerbron y Cynulliad llawn, a fydd yn penderfynu a fyddant yn cael mynd ymlaen i gyflwyno Bil yr un ai peidio.

Nod cynnig Mr Black ar gyfer Bil Cartrefi mewn Parciau (Cymru) yw rheoleiddio’r broses rheoli a gwerthu carafanau preswyl a chartrefi symudol yng Nghymru mewn ffordd fwy teg.

Nod cynnig Mr Asghar ar gyfer Bil Menter (Cymru) yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu er mwyn gwneud economi Cymru yn fwy cystadleuol a sicrhau ei bod yn aros yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i’r gymuned busnes yng Nghymru o ran cynnydd yn y maes hwn drwy ei gwneud hi’n orfodol iddi bennu strategaeth a thargedau ar gyfer datblygiad economaidd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

“Mae cynnal y balot a’r ddadl ar y cynnig a fydd yn dilyn hynny yn rhan bwysig o’n hymdrechion i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn fwy ymatebol i anghenion pobl Cymru”, dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC.

“Mae’r balot, a’r Ddadl gan Aelod Unigol, hefyd yn gyfle i Aelodau meinciau cefn ddylanwadu ar Fusnes y Cynulliad a thynnu sylw at faterion sy’n bwysig i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.”

Mae rhagor o wybodaeth am gynnig Peter Black AC ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am gynnig Mohammad Asghar AC ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am falot i Aelodau nad ydynt yn rhan o'r Llywodraeth ar gael yma.