Cyhoeddi enillydd balot diweddaraf y Llywydd i gyflwyno Bil Aelod

Cyhoeddwyd 12/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi enillydd balot diweddaraf y Llywydd i gyflwyno Bil Aelod

12 Rhagfyr

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi enw enillydd y balot deddfwriaethol diweddaraf ar gyfer cyflwyno Bil gan Aelod Cynulliad.

Bydd Kirsty Williams, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn awr yn cael y cyfle i gyflwyno cynnig ar gyfer Bil Isafswm Niferoedd Staffio Nyrsys i'r Cynulliad i'w ystyried.

Mae'r cynnig yn nodi:

Byddai’n ofynnol i’r llywodraeth, o dan y ddeddfwriaeth hon, baratoi rheoliadau sy’n pennu isafswm lefelau staffio ar gyfer nyrsys yng Nghymru. Byddai gofyn i’r rheoliadau hyn bennu isafswm lefelau staffio nyrsys ar gyfer pob gwasanaeth acíwt ac arbenigol gwahanol. Rwyf hefyd yn ystyried cynnwys gofyniad yn y rheoliadau i roi sylw i gymhlethdod anghenion cleifion ac i’r gwahanol sgiliau mewn ysbyty.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi llwyddo yn y balot i gyflwyno’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon.

“Mae potensial, yn y newid pwysig hwn yn y gyfraith, i drawsnewid ansawdd y gofal a gaiff ei ddarparu yn y GIG yng Nghymru. Mae’r gwahaniaeth enfawr yn y gyfradd o nyrsys i gleifion yng Nghymru yn syfrdanol o’i chymharu â gweddill y DU. Unwaith yn rhagor, mae diffyg uchelgais Llafur Cymru wedi golygu bod angen i’n GIG wneud mwy, ond gyda llai o adnoddau.

“Mae staff y GIG yn gweithio’n aruthrol o galed, mewn swydd anodd eithriadol, ac mae gormod o adegau pan maent yn cael eu gorweithio ac ni allant gynnig y gofal gorau posibl i gleifion.

“Yn ei ymchwiliad i’r sgandal yng Nghanolbarth Swydd Stafford, pwysleisiodd adroddiad Francis pa mor bwysig yw lefelau staffio, ac mae tystiolaeth gref i gefnogi’r ffaith bod isafswm lefelau staff nyrsio yn gwella canlyniadau i gleifion. Dyna pam mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu y dylai isafswm lefelau nyrsio fod wedi’i ymgorffori yn y gyfraith.

“Gall nyrsys sydd â llai o gleifion i ofalu amdanynt dreulio rhagor o amser gyda’u cleifion a gallant, o ganlyniad, roi gwell gofal. Os yw’n haws iddynt ganfod problemau posibl o ran gofal eu cleifion, gallant chwarae rhan ataliol yn y gofal hwnnw, yn hytrach nag ymatebol. Byddai hyn yn arwain at yr angen i drin llai o gleifion a byddai, yn sgîl hynny, yn golygu llai o gostau i’r GIG.

O dan y Rheolau Sefydlog, sef y rheolau y mae'r Cynulliad yn ddarostyngedig iddynt, rhaid cyflwyno cynnig sy'n ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil ar Isafswm Niferoedd Staffio Nyrsys o fewn 25 diwrnod gwaith.

Mae'r Rheolau Sefydlog hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod y Llywydd yn cynnal balot o bryd i'w gilydd i benderfynu ar enw Aelod heblaw aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.

Mae rhagor o wybodaeth ar y cynnig ar gyfer Bil Isafswm Niferoedd Staffio Nyrsys ar gael yma

Mae rhagor o wybodaeth am gynnal balot ar gyfer Bil Aelod ar gael yma

Gellir dod o hyd i'r cynigion a gyflwynwyd yma