Cyhoeddi enillydd y pedwerydd balot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth

Cyhoeddwyd 21/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi enillydd y pedwerydd balot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth

20 Mawrth 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi pa gynnig sydd wedi ennill yn y pedwerydd balot ar gyfer Biliau Aelodau nad ydynt yn Filiau’r Llywodraeth.

Bydd yr Aelod llwyddiannus, Mick Antoniw AC, yn gallu cael dadl yn y Cynulliad ar ei gynnig ynghylch Bil Asbestos (Adennill Costau Meddygol). Bydd y ddadl yn penderfynu a fydd yn cael cyflwyno Bil i roi grym i’r cynnig.

Mae’r cynnig yn nodi:

  • Amcan y Bil yw galluogi Llywodraeth Cymru, ar ran y GIG yng Nghymru, i adennill costau gofal a thriniaethau meddygol sydd wedi cael eu darparu i gleifion yng Nghymru sydd wedi cael clefyd Asbestos (Mesothelioma, Placiau Plewrol, Tewhau Plewrol, canser yr ysgyfaint a chlefydau cysylltiedig eraill) ac sydd wedi cael dyfarniad neu setliad sifil yn y llys neu'r tu allan i’r llys gan gyflogwr neu gorff arall, yn gorfforedig neu'n anghorfforedig.

  • Caiff y Bil hwn ei wneud o dan gymhwysedd Iechyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd yn rhaid cynnal dadl i drafod a ddylid caniatáu i’r cynnig symud yn ei flaen ar ffurf Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn erbyn 30 Mai 2012.

Dywedodd Mick Antoniw, yr Aelod Cynulliad dros Bontypridd: “Yng Nghymru, mae bywydau nifer o bobl wedi cael eu difetha gan afiechydon sy’n gysylltiedig ag asbestos.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn marw yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i afiechydon sy’n gysylltiedig ag asbestos. Yn y mwyafrif o achosion, mae hyn o ganlyniad i weithio gydag asbestos.

“Fel arfer, mae’r atebolrwydd dros yr afiechyd hwn wedi’i gynnwys yn yswiriant eu cyflogwr.

“Nod y Bil hwn yw cynorthwyo’r GIG, sydd o dan gryn bwysau, i adfer costau triniaethau meddygol gan gyflogwyr neu gwmnïau yswiriant esgeulus.

“Rwy’n gobeithio y gall hyn arwain at greu cronfa i roi cymorth meddygol a lliniarol ychwanegol i bobl sy’n dioddef o afiechyd sy’n gysylltiedig ag asbestos.”