Cyhoeddi enillydd y pumed balot ar gyfer Bil Aelod
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi pa gynnig sydd wedi ennill y pumed balot ar gyfer Bil i Aelodau nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth.
Bydd yr Aelod llwyddiannus, Darren Millar AC, yn gallu cael dadl yn y Cynulliad ar ei gynnig ynghylch Bil Ardoll Gwm Cnoi. Bydd y ddadl yn penderfynu a fydd yn cael cyflwyno Bil i roi grym i’r cynnig.
Mae’r cynnig yn nodi:
Pwrpas y Bil hwn fyddai cyflwyno ardoll o 5c yn y man gwerthu ar bob pecyn gwm cnoi a fydd yn cael ei werthu i helpu i leddfu’r broblem gynyddol o sbwriel cwm cnoi yn y wlad. Byddai'r ardoll yn cael ei gorfodi gan awdurdodau lleol. Byddai’r arian a ddaw drwy'r ardoll yn mynd tuag at y canlynol:
1. Gwella ymwybyddiaeth addysgol drwy ymgyrchoedd cyhoeddus i annog pobl i gael gwared ar gwm cnoi mewn ffordd gyfrifol.
2. Gwella’r broses o orfodi pobl i gael gwared ar gwm cnoi mewn ffordd gyfrifol.
3. Cynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r gost o gael gwared ar gwm cnoi sy'n cael ei ollwng ar strydoedd Cymru.
Bydd yn rhaid cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn i drafod a ddylid caniatáu i’r cynnig symud yn ei flaen ar ffurf Bil, a hynny erbyn 7 Tachwedd 2012.
Dywedodd Darren Millar AC: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill y balot deddfwriaethol i ddod â chynnig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar fy nghynnig i gyflwyno ardoll gwm cnoi yng Nghymru.
“Mae sbwriel gwm cnoi yn bla ar ein strydoedd, sy’n costio miloedd o bunnoedd i’r cynghorau gael gwared ohono. Gall cyflwyno ardoll fach ar baced o gwm cnoi helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon a newid ymddygiad y rheini sy’n dewis poeri eu gwm ar ein strydoedd.
“Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd Aelodau Cynulliad o bob plaid yn caniatáu i’r cynnig hwn symud yn ei flaen fel y gellir craffu’n fwy manwl arno yn ddiweddarach eleni.”