Cyllid Byrddau Iechyd Lleol yn peri gofid i un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyllid Byrddau Iechyd Lleol yn peri gofid i un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2012

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n parhau i bryderu ynghylch cyflwr cyllid byrddau iechyd lleol yng Nghymru, yn dilyn ei waith craffu ar y Gyllideb Atodol ar gyfer 2012-2013.

Yn ystod ei waith craffu, bu’r Pwyllgor yn holi Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid, am y cymorth ychwanegol dros dro o £80 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd a roddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu rhagor o wybodaeth i roi sicrwydd i aelodau’r Pwyllgor ynghylch cryfder cynlluniau ariannol byrddau iechyd lleol, a bydd yn ei gwahodd i annerch un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn yr hydref.

Yn dilyn yr adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru, a ddaeth i’r casgliad bod cyflwr presennol cyllid y byrddau iechyd lleol yn anfforddiadwy a bod newidiadau’n angenrheidiol er mwyn sicrhau eu dyfodol hirdymor, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu trafod y mater â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gwaith craffu manwl yn cael ei wneud yn y maes hwn.

Mae ariannu’r GIG yng Nghymru yn gyfrifol am 40% o holl wariant Llywodraeth Cymru. Iechyd yw’r gyfran fwyaf o’r gyllideb, ac mae’r mwyafrif helaeth o’r gwariant ar iechyd yn mynd i Fyrddau Iechyd Lleol.

"Yn nhermau llywodraethol, mae’r Gyllideb Atodol hon yn trafod symiau cymharol fychan o arian. Mae’n cynnwys llai nag 1% o gyfanswm cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Fodd bynnag, yn erbyn cefndir o gyfyngiadau economaidd llym, mae gennym bryderon difrifol o hyd ynghylch cyflwr ariannol y byrddau iechyd lleol. Mae’r cyfnod hwn yn un heriol i’n byrddau, ac mae angen sicrwydd arnom fod eu dyfodol ariannol yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

"Edrychwn ymlaen at glywed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol pan fydd yn dod gerbron y Pwyllgor yn yr hydref."

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn a rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid yma.