Mae David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, wedi gwneud y datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE'.
Dywedodd Mr Rees:
"Mae'r adroddiad pwysig hwn yn edrych ar rai o oblygiadau Brexit i gyllid yr UE a ddaw i Gymru i gefnogi prosiectau a buddsoddiadau mewn llawer o gymunedau.
"Fel rydym wedi'i ddweud eisoes fel rhan o'n gwaith ynghylch polisi rhanbarthol, mae'n hanfodol na fydd Cymru ar ei cholled o ran cyllid cyfatebol wedi i ni adael yr UE.
"Byddwn yn trafod canfyddiadau'r adroddiad fel Pwyllgor, a hynny fel rhan o'n rhaglen waith yn nhymor yr hydref."
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Allanol wedi cynnal nifer o ymchwiliadau yn ymchwilio i effaith Brexit ar Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael yma.