Cymhlethdod y drefn fudd-daliadau yn rhwystr i leihau tlodi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2019

Mae ymchwiliad gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dysgu fod y system fudd-daliadau yn gwneud cam â phobl sy’n derbyn yr incwm isaf. Mae hynny yn ei dro yn achosi problemau ehangach i'n cymunedau, mewn meysydd sy’n amrywiol o iechyd, i Lywodraeth Leol i dlodi.



  • Gall rhoi rhagor o bwerau i Gymru dros fudd-daliadau - ynghyd â'r pwerau ychwanegol yn ymwneud â threth – helpu i leihau tlodi.
  • Mae'r system fudd-daliadau yn rhy gymhleth ac nid yw'n trin pobl ag urddas nac yn dangos tegwch na thosturi.

Y diwygiadau gan Lywodraeth y DU i’r gwasanaeth lles yw un o'r materion gwleidyddol pwysicaf sydd wedi effeithio ar Gymru ers datganoli. Erbyn 2023, bydd traean o gartrefi Cymru yn derbyn Credyd Cynhwysol (Universal Credit), ac mae’r Pwyllgor wedi clywed droeon fod y drefn yn achosi problemau niferus i bobl sy’n gorfod aros yn hir am y taliad cyntaf, ac yna’n dibynnu ar dderbyn taliadau misol, yn hytrach na phob pythefnos.

Mae adroddiad y Pwyllgor – Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well - yn cyflwyno 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Yn eu plith, mae’r pwyllgor yn rhestru newidiadau posib o fewn y setliad datganoli presennol, yn ogystal â chynnig datganoli pwerau dros fudd-daliadau tai a'r broses asesu ar gyfer budd-daliadau anabledd a salwch.

Ymhlith yr argymhellion mae’r Pwyllgor yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod taliadau'r Gronfa Cymorth Ddewisol (DAF) ar gael ar unwaith. Grant brys yw’r taliad DAF, i bobl ar incwm isel yng Nghymru, a does dim angen ei ad-dalu. Mae’r taliadau yma’n gallu ysgwyddo’r baich pan mae pobl yn gorfod aros wythnosau am eu taliad Credyd Cynhwysol.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd chwilio am ffordd o gyflwyno system hyblyg fel y gall pobl ddewis os ydyn nhw am dderbyn taliadau yn fwy aml, dewis fod y taliadau’n cael eu trosglwyddo’n uniongyrchol i'r landlord, neu ganiatáu rhannu taliadau rhwng cyplau.

Ymhlith yr argymhellion eraill sydd yn yr adroddiad mae cynyddu'r trothwy ar gyfer prydau ysgolion am ddim i £14,000, os yw'n ymarferol, gan ei godi o'r trothwy ar hyn o bryd, sef incwm net blynyddol o £7,400 i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.  

Fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw'r system yn gweithio ar ei gorau ac fe all ddarparu llawer mwy o gymorth i bobl sy’n derbyn yr incwm isaf, meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau;

"Nid yw'r system bresennol yn gweithio o blaid lawer gormod o bobl. Rydym yn clywed dro ar ôl tro nad yw budd-daliadau yn ddigon i dalu costau cartref sylfaenol a hanfodol, ac nid yw'r system yn trin pobl ag urddas, tegwch na thosturi. Mae cost ddynol y methiannau hyn yn annerbyniol, a hynny o fewn un o economïau cenedlaethol mwyaf y byd.

"Wrth argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio cyfleoedd i ddatganoli mwy o reolaeth ar fudd-daliadau i Gymru, mae ein hargymhellion hefyd yn pwysleisio'r hyn y gellir ei wneud yn awr, o fewn y setliad presennol, ac yn y tymor hwy. Mae ein hargymhellion yn gosod fframwaith clir ar gyfer newid cadarnhaol, a fydd yn lleihau tlodi ac anghydraddoldeb i unigolion ac i deuluoedd, ac yn gwella lles a'r economi ar lefel gymunedol a chenedlaethol.

"Mae bron i hanner poblogaeth Cymru yn cael rhyw fath o fudd-dal, ond nid yw rhannau helaeth o’r system nawdd wedi'i datganoli. Mae'r system yn rhan hanfodol o economi Cymru, i aelwydydd unigol a hefyd i gyllid Cymru yn ehangach."

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch yr adroddiad: Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well