A homeless person on the street

A homeless person on the street

Cymorth digartrefedd ‘yn anghynaliadwy ar hyn o bryd’ - Pwyllgor Senedd

Cyhoeddwyd 09/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2023   |   Amser darllen munud

Mae pobl ddigartref yng Nghymru angen system wedi chydlynu’n well sy’n darparu llety addas a chymorth gwell, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r Senedd.

Archwiliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y materion sy’n wynebu pobl ddigartref yng Nghymru, a chanfod eu bod yn wynebu llu o rwystrau sy’n eu hatal rhag adfer eu sefyllfa.

Neb heb help

Ers dyddiau cynnar y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu agwedd o ‘neb heb help’ tuag at ddigartrefedd, gyda phob un sydd eisiau lloches yn ei chael.

Clywodd y Pwyllgor fod llwyddiant y polisi hwn – sydd wedi helpu llawer o bobl a fyddai wedi llithro o’n gafael, yn flaenorol – wedi gosod cryn straen ar y system heb fwriad, yn enwedig mewn llety dros dro.

Llety dros dro anaddas

Un o’r darnau tystiolaeth wnaeth beri’r pryder pennaf i’r Pwyllgor oedd anaddasrwydd y llety dros dro a gynigir i bobl sy’n wynebu digartrefedd.

O ganlyniad i ddiffyg llety, mae’r adroddiad yn disgrifio sut y disgwylir yn aml i’r rheini sy’n gwella ar ôl defnyddio sylweddau i rannu cyfleusterau gyda defnyddwyr sylweddau presennol. Yn aml, mae pobl yn dewis cysgu ar y stryd er mwyn osgoi’r cyfryw sefyllfaoedd.

Mae gan Wayne, 52, brofiad uniongyrchol o fod mewn llety dros dro. Yn ôl Wayne, “Pan fyddi di ar dy waethaf a does neb yno i dy helpu, mae’n realiti dychrynllyd.

“Dw i wedi bod ar y strydoedd ers yn bymtheg oed ac wedi bod i sawl hostel dros y blynyddoedd. Roedd hi’n dda cael oddi ar y stryd ond does dim cefnogaeth, y cyfan gei di yw llety. Chei di ddim cynnig cwnsela i drafod be sy’n mynd ymlaen a does dim cefnogaeth i’r rheini sy’n gaeth.

“Dim ond pan ges i help go iawn y llwyddais i gyrraedd y lan. Mae gen i fy fflat fy hun nawr, rwy wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac mae fy merch yn ôl yn fy mywyd.”

Llety un ystafell wely

Mae diffyg cartrefi un ystafell wely yn cael ei nodi fel rheswm arwyddocaol dros y ffaith bod pobl yn aros am yn hir mewn llety dros dro. Mae hynny’n arbennig o wir os oes angen cymorth ychwanegol ar yr unigolyn oherwydd yn aml, nid yw rhannu llety â phobl eraill yn opsiwn ymarferol.

Clywodd y Pwyllgor mai'r rheswm dros y diffyg hwn yw datblygwyr tai sy'n blaenoriaethu adeiladu tai mwy proffidiol, mwy o faint dros unedau llai. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ar frys i'r holl opsiynau fyddai'n cynyddu argaeledd llety un ystafell wely yng Nghymru.

Diffyg o ran cyfleusterau a chyfathrebu

Mae'n anodd dod o hyd i opsiynau tai ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth fel dibyniaeth, ac esboniodd llawer o awdurdodau lleol – sy'n rheoli darpariaeth tai cyhoeddus ledled Cymru – fod pob math o lety dros dro yn llawn ar hyn o bryd, a'u bod yn gorfod defnyddio sefydliadau gwely a brecwast, a gwestai.

Mae hyn wedi arwain at ‘gartrefu’ teuluoedd cyfan mewn ystafelloedd gwesty sengl. Mae lle’n gyfyng yno a phrin yw preifatrwydd ac at hynny, does gan y rheini y disgwylir iddynt fyw yno ddim mynediad at geginau na mynediad llawn i’r rhyngrwyd.

Cafodd y Pwyllgor wybod gan Tai Pawb fod y defnydd o lochesi a hosteli wedi cynyddu 18 y cant, tra bo’r defnydd o sefydliadau gwely a brecwast fel llety dros dro wedi cynyddu dros 474 y cant.

Mae disgwyl i lawer aros mewn llety dros dro am fisoedd, heb gael yr un diweddariad ynghylch pa mor hir fydd hi cyn y byddan nhw'n gallu sicrhau tai mwy addas a pharhaol.

Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i fod yn fwy clir wrth esbonio i bobl beth yw eu statws o ran tai a pha mor hir y bydd disgwyl iddynt aros, er mwyn osgoi ansicrwydd.

Yn ôl John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, “Mae miloedd o bobl yng Nghymru sy’n ddigartref ond mae’r cymorth a’r llety sy’n cael eu cynnig iddynt angen gwella’n arw.

“Dro ar ôl tro, clywsom straeon hynod bryderus am deuluoedd yn byw mewn ystafelloedd gwesty sengl am fisoedd heb unrhyw syniad pryd y bydden nhw’n cael cartref addas. Ar ben hyn, mae’r staff ar lawr gwlad – sy’n cefnogi pobl hynod fregus ac yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth bob dydd – ar ben eu tennyn.

“Dylid canmol agwedd “neb heb help” Llywodraeth Cymru a heb unrhyw amheuaeth, mae’r polisi wedi achub llawer o fywydau. Serch hynny, mae’n ffaith ein bod ni, bellach yn gweld llawer o broblemau. Yn y bôn, yr hyn sy’n achosi digartrefedd yw diffyg tai cymdeithasol yn y wlad.

“Gwyddwn nad oes modd syml o ddatrys y problemau niferus yn y system, ond mae’r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy. Os yw’r problemau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad hwn yn mynd i gael eu datrys, yna mae rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried argymhellion y Pwyllgor fel mater o frys.”