Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl yw’r mater pwysicaf yn ôl arolwg Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 07/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2019

Women comforting one another

 

Mae pobl ifanc ledled Cymru am i Senedd Ieuenctid Cymru newydd edrych ar y materion sy'n ymwneud â chymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl pan fydd y Senedd yn cyfarfod yn llawn am y tro cyntaf fis nesaf.

Mewn arolwg cenedlaethol, gofynnwyd i bobl ifanc - "Dros y chwe mis diwethaf, buom yn holi pobl ifanc ledled Cymru pa faterion sydd bwysicaf iddynt. Rydym wedi casglu dros 2,000 o faterion ac wedi eu grwpio o dan y categorïau a ganlyn. Pa dri phwnc ydych chi'n credu y dylai Senedd Ieuenctid Cymru eu trafod?"

Ymatebodd mwy na 3000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 mlwydd oed ar draws Cymru, ac iechyd meddwl a lles emosiynol oedd yn dod i'r amlwg fel y mater pwysicaf i'w drafod gan y mwyafrif ohonynt.

Dewiswyd cymorth emosiynol a meddyliol gan 36 y cant o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg. Daeth digartrefedd (27 y cant), bwlio a seiberfwlio (21 y cant) a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc (19 y cant) hefyd yn uchel iawn.

 

Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl               
36%

Digartrefedd                                                                         
27%

Bwlio a seiberfwlio                                                              
21%

Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm (gan gynnwys Cyllid, Gwleidyddiaeth ac Addysg Rhywiol)                                        
20%

Cyfleoedd Gwaith i Bobl Ifanc                                           
19%

 

Bydd y 60 aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn penderfynu'n derfynol ar y tri phwnc y mae nhw am ganolbwyntio arnynt yn ystod eu cyfnod o ddwy flynedd fel aelodau.

Bydd yr aelodau'n cwrdd am gyfnod preswyl o dri diwrnod ar ddiwedd mis Chwefror, a fydd yn cynnwys cyfarfod llawn o Senedd Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf.

 

Mae Lloyd Mann yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Drefynwy, ac mae wedi ysgrifennu blog ar faterion iechyd meddwl ar gyfer gwefan Senedd Ieuenctid Cymru:

"Hoffwn pe bai athrawon yn cael dim ond hyfforddiant sylfaenol ar sut i sylwi ar arwyddion o iselder a phryder mewn plant a phobl ifanc, a sut i ymdrin â nhw.

"Os yw athro / athrawes yn gweld nad yw myfyriwr wedi cwblhau ei waith oherwydd ei fod yn dioddef o iselder ysbryd, ond nad yw'r athro yn sylweddoli hynny ar y pryd, efallai y bydd yn ddig ac yn gweiddi ar y myfyriwr, a bydd hynny'n gwneud iddo deimlo'n waeth fyth.

"Os yw'r athro hwnnw'n gallu gweld bod y myfyriwr yn ofidus, a'i fod yn siarad â'r myfyriwr, gallai hynny wneud byd o wahaniaeth."

 

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"A hithau'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant, mae'n hynod amserol dysgu bod lles emosiynol a lles meddyliol mor bwysig i bobl ifanc Cymru.

"Bydd yr arolwg hwn yn llywio blaenoriaethau ein Haelodau Senedd Ieuenctid wrth iddynt baratoi ar gyfer eu Cyfarfod Llawn cyntaf mewn ychydig wythnosau.

"Trwy roi llwyfan i'r mater pwysig hwn, rwy'n gobeithio y bydd trafodaethau'r Senedd Ieuenctid yn annog mwy o bobl ifanc ledled Cymru i siarad yn agored â'u cyfoedion am iechyd meddwl."

 

Etholwyd 40 o aelodau yn ddemocrataidd i Senedd Ieuenctid Cymru yn yr etholiad cyntaf erioed, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd y llynedd, a bydd y bobl ifanc yn cynrychioli'r 40 etholaeth yng Nghymru.

Roedd dros 470 o ymgeiswyr yn sefyll i'w hethol ar draws y wlad.

Dewisir 20 aelod arall o'r Senedd Ieuenctid hefyd gan sefydliadau partner, i adlewyrchu'r cymunedau amrywiol ar draws y wlad yn well, gan gynnwys pobl ifanc o gefndiroedd gofal, o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac o'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru ar y wefan, www.seneddieuenctid.cymru.