Cymru ar y blaen i San Steffan ar lobïo – Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi ymagwedd dryloyw ac agored

Cyhoeddwyd 27/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cymru ar y blaen i San Steffan ar lobïo – Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi ymagwedd dryloyw ac agored

27 Mehefin 2013

Nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi aros i San Steffan weithredu ynghylch lobïo, ac mae eisioes wedi cynnal adolygiad o'i arferion a'i ganllawiau ei hun ar lobïo.

Y llynedd, gofynnodd Rosemary Butler AC, y Llywydd, i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad edrych ar y trefniadau sydd ar waith ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2013, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod systemau cadarn eisioes yn bodoli gan y Cynulliad i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn dryloyw ac yn agored wrth ymdrin ag unigolion a sefydliadau allanol.

Mae'r adroddiad yn argymell bod y Cynulliad yn mabwysiadu cod ymarfer sy'n ymwneud â lobïo ac yn cryfhau'r rheolau ar gyfer y ffordd y mae grwpiau trawsbleidiol yn gweithredu.

Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y dull yng Nghymru yn gymesur, ac eisoes yn ddigon cadarn fel nad oes angen rhagor o ddeddfwriaeth na chofrestr o lobïwyr.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau wrth y Pwyllgor fod y trefniadau presennol “yn eu hanfod yn ddigon cadarn ac yn addas ar gyfer y diben”.

Ar 26 Mehefin, cefnogodd Aelodau'r Cynulliad gynigion y Pwyllgor yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn sgîl hyn, caiff y canllawiau ar lobïo eu mabwysiadu a byddant yn dod i rym ar unwaith, a bydd y rheolau ynghylch grwpiau trawsbleidiol yn dod i rym ym mis Medi.

Dechreuodd y broses ymgynghori hon wedi i'r Llywydd anfon llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Mawrth 2012.

Yn ei llythyr, roedd y Llywydd yn mynnu y dylai Aelodau'r Cynulliad fod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am drefniadau llywodraethu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd: “Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol oherwydd nid oeddwn am i'r Cynulliad gael ei gynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth o San Steffan yn y dyfodol gan nad yw Cymru yn wynebu'r un materion, a'r enw drwg, ag sydd gan Senedd y DU, o ran lobïo.

“Mae canllawiau a systemau cadarn eisioes yn bodoli yn y Cynulliad lle mae'n drosedd i Aelod elwa o berthynas â lobïwr.

“Gofynnais i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad adolygu'r trefniadau sydd gennym er mwyn sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn agored.

“Yn ei adroddiad, roedd y Pwyllgor wedi cadarnhau'n llawn fod y dull hwn o weithio yn ddilys ond na ddylem ni fyth laesu dwylo. Gwnaeth sawl argymhelliad cadarnhaol a fydd yn sail bellach i'r strwythurau cadarn sydd eisoes gennym a heddiw, cytunodd y Cynulliad yn unfrydol i fabwysiadu'r cynigion hynny.

“Felly, wrth i San Steffan ei chael hi'n anodd i fynd i'r afael â'r mater o lobïo, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gweithredu i sicrhau bod tryloywder a natur agored wrth wraidd y modd y mae'n gwneud busnes.”