Cymru yn bwrw pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm

Cyhoeddwyd 04/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cymru yn bwrw pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm

4 Mawrth 2011

Mae pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid rhoi mwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y refferendwm.

Mae hynny’n golygu na fydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach ofyn caniatad gan San Steffan i wneud deddfau sy’n ymwneud a’n hysgolion, ein hysbytai a phynciau eraill yn yr 20 maes sydd wedi’u datganoli.   

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, mai dyma yw dim ond dechrau’r her.

“Drwy fwrw pleidlais gadarnhaol, mae pobl Cymru wedi ymddiried ynom i ateb her glir iawn.

“Rhaid i ni ddangos iddynt fod eu Cynulliad yn deall eu huchelgeisiau i Gymru, a’i fod yn gallu ymgysylltu a hwy i wireddu’r uchelgeisiau hynny.”

“Dyna pam mae Comisiwn y Cynulliad eisoes wedi dechrau ar y broses o wella'r ffordd rydym yn gweithio i alluogi mwy o bobl i chwarae rol uniongyrchol yn y gwaith a wnawn.”

Bydd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddi cynigion i newid y Rheolau Sefydlog (y rheolau sydd yn llywodraethu sut y rhedir busnes y Cynulliad) yr wythnos nesaf.

Bwriedir i’r newidiadau hyn roi mwy o gyfle i Aelodau’r Cynulliad adlewyrchu anghenion pobl Cymru yn y broses o wneud deddfau a chraffu ar waith y Llywodraeth.

Bydd pobl Cymru yn awr yn cael cyfle i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Cynulliad, ac yn defnyddio’r pwerau newydd hyn, yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.

Nodiadau i olygyddion:

Cyn y gall y Cynulliad ddechrau deddfu yn y meysydd hyn, fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud Gorchymyn, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, a fydd yn dod â Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i rym.

Yn Rhan 4, rhestrir yr holl faterion y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch ar ôl cael pleidlais gadarnhaol mewn refferendwm.

Bydd angen i’r Gorchymyn hefyd wneud trefniadau i’r Cynulliad allu dechrau defnyddio’r gweithdrefnau deddfu newydd yn ddidrafferth. Deddfau’r Cynulliad yn hytrach na Mesurau’r Cynulliad fydd y cyfreithiau newydd hyn.  

Bydd angen i’r mwyafrif o Aelodau’r Cynulliad gymeradwyo’r Gorchymyn hwn mewn pleidlais yn y Cyfarfod Llawn cyn y gall ddod i rym.

Am ragor o wybodaeth am bwerau deddfu newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n gwefan yma.