Cynllun mentora arloesol gan y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn ennill y brif wobr

Cyhoeddwyd 17/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynllun mentora arloesol gan y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn ennill y brif wobr

17 Mehefin 2010

Mae cynllun Camu Ymlaen Cymru wedi cael cydnabyddiaeth mewn seremoni wobrwyo yng Nghymru.

Enillodd Adam Rees, cydgysylltydd cynllun arloesol Camu Ymlaen Cymru y Cynulliad, wobr am y Dinesydd Gweithredol yn nigwyddiad Gwobrau Ysbrydoli Cymru a gynhaliwyd neithiwr (15 Mehefin).

Mae Camu Ymlaen Cymru yn annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, er enghraifft pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol, yn ogystal â grwpiau o leiafrifoedd ethnig, i gymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru drwy eu paru â chynghorwyr lleol ac Aelodau’r Cynulliad dros gyfnod o chwe mis.

Dywedodd Adam: “Rwy’n hynod o falch fy mod wedi ennill y wobr hon. Roedd yn syndod, ond yn gyfiawnhad o holl waith caled mentoriaid a mentoreion cynllun Camu Ymlaen Cymru.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn deillio o’r ffordd y gwnaeth y mentoriaid a’r mentoreion gyfrannu at y cynllun, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff hyn ysbrydoli pobl eraill o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan ac y bydd yn effeithio ar eu bywydau nhw hefyd.”

Llywiwyd cynllun Camu Ymlaen Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol: “Llywiodd Adam y Cynllun Camu Ymlaen Cymru yn ardderchog ac mae hon yn gydnabyddiaeth arwyddocaol a chwbl haeddiannol o’i holl waith caled.”

“Mae ei arweinyddiaeth a’i ysbrydoliaeth wedi annog nifer o’r mentoreion i ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth, tra bod eraill wedi addo gwneud mwy o ddefnydd o’r broses ddemocrataidd yng Nghymru er mwyn rhoi mwy o lais i’w cymunedau.

“Mae hefyd yn dangos ymrwymiad y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod pobl Cymru’n cael eu cynrychioli yn y gwaith rydym yn ei wneud yma, drwy annog pobl i gymryd rhan yn y broses wleidyddol.”

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Rwyf yn falch iawn dros Adam ar ôl yr holl waith caled y mae wedi ei wneud dros y cynllun, ond rwyf hefyd yn teimlo bod y llwyddiant hwn yn adlewyrchu’n union beth mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn anelu amdano bob amser fel sefydliad.

“Mae cydraddoldeb, cynhwysiant a thryloywder yn rhai o’r prif feysydd rydym yn eu hystyried yn allweddol yn y gwaith rydym yn ei wneud, fel y gall pobl o holl gymunedau Cymru ddeall a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

“Ni fu llawer o amser ers i’r Cynulliad ennill gwobr arall, a thrwy hynny, ymuno â grwp elit yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ennill safon aur buddsoddwyr mewn pobl, sydd yn dyst pellach i’r gwaith rydym yn ei wneud.”