Cynlluniau S4C i ddarlledu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu croesawu fel hwb i ddemocratiaeth Cymru

Cyhoeddwyd 20/04/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynlluniau S4C i ddarlledu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu croesawu fel hwb i ddemocratiaeth Cymru

20 Ebrill 2010

Cyhoeddodd y darlledwr S4C y bydd yn dechrau dangos trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ddydd Mawrth nesaf ymlaen (20 Ebrill).

Croesawyd y penderfyniad gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y Llywydd, a ddywedodd ei fod yn newyddion da i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Dyma hwb ardderchog i ddemocratiaeth yng Nghymru.

“Byddwn yn gweld y degfed Mesur Cynulliad yn cael Cymeradwyaeth Frenhinol ers i’r Cynulliad gael y pwer i wneud deddfwriaeth sylfaenol ar ôl yr Etholiadau Cynulliad diwethaf. Rydym hefyd wedi cael mwy o bwerau drwy14 Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

“Felly mae’n bwysicach nag erioed fod pleidleiswyr yn gallu gweld gwaith eu haelodau etholedig er mwyn gwneud penderfyniad hyddysg wrth y blwch pleidleisio.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid, S4C, am chwarae rhan flaenllaw i’n helpu i gyflawni’r amcan hwn o gynyddu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.

“Bydd hefyd yn ategu ein sianel ar y we, sef Senedd TV, sy’n dangos holl drafodion y Cynulliad yn fyw yn ogystal â Democratiaeth Fyw y BBC.”