Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymuno ag elit Buddsoddwyr mewn Pobl

Cyhoeddwyd 04/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymuno ag elit Buddsoddwyr mewn Pobl

4 Mehefin 2010

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi llwyddo i ennill statws aur Buddsoddwyr mewn Pobl. Dim ond dau sefydliad arall yng Nghymru sydd wedi llwyddo i wneud hynny.

Mae’r llwyddiant hwn yn golygu bod y Cynulliad, ar hyn o bryd, yn un o tua 25 corff sector cyhoeddus yn y DU i gyrraedd y safon hwn am ei bolisïau hyfforddi, cefnogi a buddsoddi mewn gweithwyr.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Mae hwn yn lwyddiant ysgubol i’r Cynulliad a’r bobl sy’n gweithio yma.”

“Rydym yn falch iawn mai ni yw’r corff deddfu cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd y safon hwn.

“Mae hyn yn dyst i’n gweledigaeth o ddarparu man lle mae gweithwyr yn cael eu cydnabod am y gwaith caled y maent yn ei gyflawni ac yn cael yr holl gymorth angenrheidiol er mwyn datblygu eu gyrfaoedd.

“Mae hyn yn profi rhywbeth rwyf wedi ei deimlo erioed, sef bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhywle positif a bywiog i weithio ynddo.

“Nawr, mae’n rhaid i ni weithio, nid yn unig i gadw’r safon hwn, ond i ganfod ffyrdd newydd o wella’r ffordd yr ydym yn gweithio.”

Dywedodd Chris Humphries CBE, Prif Weithredwr Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau: “Llwyddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ennill statws aur newydd Buddsoddwyr mewn Pobl drwy esiampl ac arweiniad gwych o frig y sefydliad, yn ogystal â gwaith dysgu a datblygu gyrfa pellach y maent wedi ymrwymo iddo.

“Ac oherwydd balchder, brwdfrydedd a theyrngarwch y bobl sy’n gweithio yno, rwy’n eu llongyfarch yn fawr.”

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn gyfrifol yn strategol am y cynllun Buddsoddwyr mewn Pobl.