Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i adalw

Cyhoeddwyd 29/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/08/2019

Yn dilyn cais gan Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, mae Elin Jones AC, y Llywydd, wedi cytuno i adalw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Cynulliad yn eistedd ddydd Iau, 5 Medi yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Caiff agenda'r cyfarfod ei chyhoeddi maes o law.

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol:

"Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, rwyf wedi cael cais gan y Prif Weinidog i adalw'r Cynulliad yr wythnos nesaf er mwyn trafod y datblygiadau diweddaraf o ran Brexit.

"Rwyf wedi cytuno i'r cais ac, yn sgil hyn, bydd Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ddydd Iau 5 Medi.

"Rydym ar dir cyfansoddiadol digynsail ac, am fod Senedd y DU yn ailymgynnull yr wythnos nesaf, mae'n fater o egwyddor seneddol y dylai Aelodau'r Cynulliad hefyd gael y cyfle i siarad ar ran eu hetholwyr ar bwnc o'r fath arwyddocâd."

Ymdrinnir ag adalw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Reol Sefydlog 12.3 sy'n nodi fel a ganlyn:

Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Cynulliad i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i adalw dair gwaith o'r blaen:

Yn 2002 yn dilyn marwolaeth y Fam Frenhines.

Yn 2012 i drafod rheoliadau treth gyngor a phleidleisio arnynt.

Yn 2016 i drafod argyfwng y diwydiant dur.