Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf
Heddiw, (ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2008) cyhoeddir Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar-lein , yn unol â’i ymrwymiad i gynaliadwyedd.
Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dyletswyddau yr ymgymerodd y Cynulliad â hwy rhwng 9 Mai 2007 – y diwrnod y daeth Deddf Llywodraeth Cymru i rym a rhoi pwerau newydd i’r Cynulliad – a 31 Mawrth 2008.
Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, a chryfhaodd ei rôl graffu. Creodd hefyd Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi’r Cynulliad.
Mae uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Cynulliad yn cynnwys cyflwyno saith Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a dau Fesur Cynulliad. Hefyd, cafwyd y Mesur arfaethedig Aelod cyntaf, sef y Mesur arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion
a gyflwynwyd ar 14 Mawrth gan Jenny Randerson,
a’r Gorchymyn sy’n rhoi pwerau deddfu i’r Cynulliad ar agweddau arbennig o addysg a hyfforddiant a gafodd ganiatâd Brenhinol ar 8 Ebrill.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Bu’n flwyddyn gyffrous a phwysig i ni ac mae’r hyn a gyflawnwyd gan y Cynulliad hyd yma a brwdfrydedd y staff yn argoeli’n dda i’r dyfodol.
“Gosodwyd sylfeini cadarn ar gyfer y pedair blynedd hyd 2011 fel y gallwn gyflawni’n huchelgais o wneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru”.
Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’r Cynulliad yn sefydliad ifanc a blaengar sy’n ffynnu ac mae ein Adroddiad Blynyddol yn adlewyrchu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni dros y flwyddyn a fu. Fodd bynnag, byddwn yn canolbwyntio ar y dyfodol ac ein bwriad yw adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni a chyfathrebu â dinasyddion Cymru i annog trafodaeth am ein pwerau a sut yr ydym yn eu defnyddio.
“Edrychwn ymlaen at yr heriau sydd i ddod a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil yr heriau hynny.”
Yn unol ag ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynaliadwyedd, bydd yr Adroddiad Blynyddol ar gael ar-lein yn unig. Bydd crynodebau wedi’u hargraffu hefyd ar gael.
Gellir hefyd lawr-lwytho podlediadau (fformat MP3) o’r Adroddiadau Blynyddol o’n gwefan.
Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mynegi’r Senedd mewn rhifau
Ystadegau ar gyfer y cyfnod rhwng 9 Mai 2007 a 31 Mawrth 2008.
60 Aelod Cynulliad
Cynhaliwyd 244 cyfarfod pwyllgor a deddfwriaethol ffurfiol
Cyflwynwyd 7 Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a 2 Fesur Cynulliad
Cafwyd 37, 738 ymholiad drwy ein llinell wybodaeth
Cafodd16,692 o ddisgyblion y cyfle i gymryd rhan yn ein rhaglen addysg
Cynhaliwyd 61 cyfarfod llawn y Cynulliad cyfan
Croesawyd y 500,000fed ymwelydd i’r Senedd
Cyflwynwyd 5,056 o gwestiynau llafar ac ysgrifenedig
Croesawyd 81 dirprwyaeth o wledydd y tu allan i Gymru
Daeth 61 deiseb i law
Comisiwn y Cynulliad
Ym mis Mai 2007, sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad, fel corff corfforaethol, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau bod yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen yn cael eu darparu i fodloni dibenion y Cynulliad. Mae hefyd yn pennu amcanion strategol ac yn ystyried perfformiad, yn cytuno ar safonau ac egwyddorion, yn cadw golwg ar newid ac yn annog arloesedd a menter er mwyn gwella gallu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ac i gymryd rhan yn y broses o reoli perfformiad a risg. Mae’r pum Comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol am swyddogaethau’r Comisiwn.
Aelodau’r Comisiwn yw:
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd, Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad
Lorraine Barrett (Llafur)
Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol)
William Graham (Ceidwadwyr)
Elin Jones (Plaid Cymru) –
tan fis Gorffennaf 2007
Chris Franks (Plaid Cymru) –
o fis Medi 2007 ymlaen