Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal i ddangos cynnydd fel sefydliad cynhwysol

Cyhoeddwyd 16/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Unwaith eto, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd mwy o gamau cadarnhaol fel sefydliad agored a chynhwysol.

Yn y flwyddyn pan gafodd y Cynulliad ei enwi'n brif gyflogwr y DU i bobl LHDT ym mynegai Gweithle Blynyddol Stonewall, cadwodd hefyd ei safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl, ei Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth a Gweithredu ar Golli Clyw a chafodd ei enwi ymysg y 30 cyflogwyr uchaf ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio.

Mae Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant diweddaraf y Cynulliad ar gyfer 2017-18 yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed wrth gyflawni amcanion Comisiwn y Cynulliad, a nodir yn ei Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21:

  • Meithrin arweinyddiaeth gynhwysol a diwylliant cynhwysol yn y gweithle;

  • Aadeiladu ar ein dull o ddatblygu'r sefydliad;

  • Cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a'u staff i gynnwys amrywiaeth yn eu gwaith;

  • Cynorthwyo Staff Comisiwn y Cynulliad i gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gwaith; a,

  • Bod yn Gyflogwr Cynhwysol sy'n denu ac yn cadw'r gronfa ehangaf o dalent lle mae pob aelod o staff yn cael cyfle i wireddu ei botensial llawn. 

Dywedodd Elin Jones, y Llywydd, "Rwy'n falch o record y Cynulliad ar amrywiaeth a chynhwysiant a bod cysyniadau tegwch, urddas a pharch bob amser wedi bod yn egwyddorion craidd.

"Mae'r adroddiad hwn yn dathlu'r gwaith yr ydym wedi'i wneud i fod yn sefydliad cynhwysol, ond gwyddom fod yna fwy i'w wneud bob amser.

"Nid ydym wedi cael ein cysgodi rhag y digwyddiadau gofidus a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i'r mudiad #MeToo a #TimesUp.

"Rydym yn derbyn ein rôl yn y mater hwn ac rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd i rymuso pobl i siarad am eu profiadau yn y Cynulliad Cenedlaethol, nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: 

"Ein nod yw bod yn sefydliad sy’n batrwm i eraill yn y modd rydym yn cynorthwyo ein staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. 

"Rwy'n ddiolchgar i'n Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, ein rhwydweithiau gweithle ac i gydweithwyr ar draws y sefydliad am barhau i wneud y Cynulliad yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth cynhwysol."


"Rwy'n falch o record y Cynulliad ar amrywiaeth a chynhwysiant a bod cysyniadau tegwch, urddas a pharch bob amser wedi bod yn egwyddorion craidd."

- Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


 

Uchafbwyntiau'r flwyddyn:

  • Stonewall yn ei enwi'n gyflogwr gorau ym Mhrydain i bobl LHDT. Cydnabyddiaeth am "arwain y blaen" gan Stonewall, a'i enw'n Brif gyflogwr Traws-gynhwysol, a chafodd ein rhwydwaith yn y gweithle ei ganmol yn fawr am ei weithgaredd;

  • Dal gafael ar wobrau a chydnabyddiaeth allanol eraill e.e. safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth a Gweithredu ar Golli Clyw; 30 Cyflogwr Uchafar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio;

  • Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol pobl sy'n gweithio yn y Cynulliad gyda llyfr ryseitiau o brydau traddodiadol ar draws y byd;

  • Ymgymryd â mwy o waith i sicrhau bod parch ac urddas pobl wrth weithio yn y Cynulliad yn cael ei ddiogelu, neu wrth ymgysylltu â phobl sy'n gweithio yma;

  • Yn dilyn lansio polisi Iechyd Meddwl, lansiwyd MINDFUL, rhwydwaith cydraddoldeb iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle. Drwy gydol y flwyddyn, mae'r rhwydwaith wedi gweithio'n helaeth gyda phartneriaid allanol i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a lleihau stigma;

  • Wedi estyn allan i gymunedau ledled Cymru i annog cyfranogiad democrataidd a hyrwyddo'r Cynulliad fel cyflogwr o ddewis, gan gynnwys Pride Cymru, mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, a dathlu menywod mewn gwleidyddiaeth drwy nodi canmlwyddiant rhai menywod yn cael yr hawl i bleidleisio;

  • Ail-lunio cynllun prentisiaid y Cynulliad i gynyddu allgymorth allanol a gwneud y cynllun yn fwy cynhwysol gan arwain at geisiadau mwy amrywiol nag erioed o'r blaen; a,

  • Cynnal adolygiad o arferion recriwtio i sicrhau eu bod yn gynhwysol.

Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2017-2018

Gellir cael mwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno o dan bolisi urddas a pharch y Cynulliad yma.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Amrywiaeth a Chynhwysiant: Adroddiad Blynyddol 2016-17 (PDF, 2.9 MB)